Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, mae gofynion cyfreithiol ynghylch sut y mae'n rhaid priodoli'ch gwariant i:
etholaethau seneddol
rhannau o'r DU
Cyfeiriwn at y rhain fel y ‘rheolau priodoli’. Diben y rheolau priodoli yw aseinio eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir i bob rhan o'r DU a phob etholaeth y mae'n cael effaith ynddi.
Mae'r gwariant a briodolir i bob rhan o’r DU yn cyfrif yn tuag at y terfyn gwariant ar gyfer y rhan honno. Mae'r gwariant a briodolir i bob etholaeth yn cyfrif yn tuag at y terfyn gwariant ar gyfer yr etholaeth honno. Bydd yr holl wariant yn cyfrif tuag at y terfynau ar gyfer o leiaf un rhan o'r DU ac o leiaf un etholaeth.
Yn gyntaf dylech nodi lle mae eich gwariant yn cael effaith. Gall ymgyrch gynnwys nifer o eitemau gwariant y mae eu heffaith wedi’i chyfyngu i etholaethau neu rannau penodol o’r DU. Er enghraifft, ymgyrch daflenni ar draws etholaethau lluosog lle gwyddoch faint sy'n cael ei wario ar ddosbarthu taflenni ym mhob etholaeth. Lle bo modd, dylech nodi a rhannu eitemau gwariant y mae eu heffaith wedi'i chyfyngu i feysydd ar wahân.
Yna mae'n rhaid i chi gymhwyso'r rheolau priodoli isod.
Etholaethau
Rhaid i chi rannu eich gwariant yn hafal rhwng yr holl etholaethau y mae’n cael effaith ynddynt.1
Er enghraifft, mae'n rhaid i chi briodoli gwariant ar ymgyrch ledled y DU yn hafal i bob un o’r 650 o etholaethau yn y DU.
Os ydych yn ymgyrchu ar draws un rhan o'r DU, mae'n rhaid i chi briodoli'r gwariant yn hafal i bob etholaeth yn y rhan honno.2
Os gwariwch y terfyn cyfan ar ymgyrchu etholaethol mewn etholaeth benodol, byddwch yn torri'r terfyn gwariant ar gyfer etholaeth os byddwch wedyn yn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu arall a reoleiddir y mae'n rhaid ei briodoli i'r etholaeth honno.
Rhannau o'r DU
Rhaid i chi rannu eich gwariant rhwng y rhannau o’r DU y mae eich gwariant yn cael effaith ynddynt:
Os mai dim ond mewn un rhan o’r DU y mae eich gwariant wedi cael effaith, rhaid i chi ei briodoli i’r rhan honno.3
Os yw eich gwariant yn cael effaith mewn mwy nag un rhan o’r DU, rhaid i chi ei briodoli i bob rhan yn gymesur â faint o etholaethau sydd ym mhob rhan.4
Yr etholaethau a ddefnyddir yw'r rhai a fydd yn eu lle yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae nifer yr etholaethau ym mhob rhan o’r DU fel a ganlyn: