Mae'r cyfreithiau ar wariant a rhoddion yn gymwys i ymgyrchwyr di-blaid sy'n gwario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Pwy sy'n dod o dan y gyfraith?
Mae cyfyngiadau sy'n gymwys i wariant ar weithgareddau a reoleiddir gan unigolion a sefydliadau:
nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU
nad ydynt ar gofrestr etholiadol yn y DU
nad ydynt wedi'u cofrestru'n ymgyrchydd nad yw'n blaid
sy'n ymgyrchu yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Y terfyn gwariant isaf y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yw £700. Os byddwch ond yn gwario £700 neu lai ar weithgareddau a reoleiddir, nid yw'r cyfreithiau ar wariant a rhoddion yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r gofynion ynglŷn ag argraffnodau yn gymwys o hyd.
Dim ond rhai unigolion a sefydliadau, sydd wedi'u lleoli yn y DU fel rheol, all wario mwy na £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 1
Gall yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hyn wario hyd at £10,000 ledled y DU heb gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Ceir rhestr lawn o unigolion a sefydliadau cymwys ar y dudalen nesaf.
Mae'n rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n dymuno gwario mwy na £10,000 gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol.2
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi cyflwyno hysbysiad i ni, yr ydym yn eu galw'n ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol mewn perthynas â gwariant ac adrodd.
Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y cyfyngiadau sy'n berthnasol cyn i chi gyflwyno hysbysiad i ni.