Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Sut y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?

Rhaid i'r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno'n bersonol. Ni ellir eu postio, ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall.  1

Gellir cyflwyno'r dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun drwy'r post, ond ni ellir eu ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. 2

Rhaid cyflwyno fersiwn wreiddiol pob papur a gwblhawyd. 3

Er enghraifft, byddai tystysgrif awdurdodi a anfonwyd fel atodiad e-bost i'w argraffu, er enghraifft, yn ei gwneud yn ‘gopi o ddogfen’ ac nid yn ddogfen wreiddiol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023