Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pryd y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?

Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fwrw golwg anffurfiol drostynt a rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd os bydd eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cadarnhau'r union fanylion o ran pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu ar yr hysbysiad etholiad. 1  Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan awdurdod lleol Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.

Gallwch gyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad tan 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2

Dylech gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu cyn gynted â phosibl er mwyn gweld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.

Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno'ch papurau enwebu ac yn penderfynu nad ydych am sefyll yn yr etholiad mwyach, gallwch dynnu'ch enw yn ôl, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.  3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023