Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Wedi'u trosglwyddo neu eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo

Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 1

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdano ar wahân yn yr adran rhoddion ar y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth am y rheolau ynglŷn â rhoddion yn Rhoddion ymgeisydd.
 

Example

Enghraifft A

Mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch – felly mae'r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i'r ymgeisydd.

Os bydd yr ymgeisydd yn dosbarthu'r taflenni, bydd wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Rhaid cofnodi gwerth y taflenni (os yw dros £50) fel gwariant tybiannol.
 

N/A

Os na chaiff eitem sy'n hyrwyddo eich etholiad ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol y bydd yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag a gyflawnodd y gweithgaredd.

Example

Enghraifft B

Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.

Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.

Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.

Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd yw hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn Ymgyrchu lleol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023