Mae plaid yn anfon gwerth £100 o daflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch. Mae'r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu iddynt gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ddim.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£100) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£0) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50.
Enghraifft B
Mae argraffwr yn rhoi dyfynbris o £200 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i'r ymgeisydd ar yr archeb. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£100) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd gofnodi'r swm a dalwyd ganddo am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant.
Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd drwy'r pris gostyngol gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50