Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Beth mae asiant pleidleisio drwy'r post yn ei wneud?

Caniateir i asiant pleidleisio drwy'r post fod yn bresennol ac arsylwi ar achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, a gaiff eu cynnal gan y Swyddog Canlyniadau Lleol.

Ym mhob achlysur agor amlenni, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn penderfynu a yw'r dyddiad geni a'r llofnod a ddarparwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd yn flaenorol ac sydd yn eu cofnodion. Os na fydd y rhain yn cyfateb, caiff y bleidlais bost ei gwrthod.

Mae gan asiant pleidleisio drwy'r post yr hawl i arsylwi ar y broses hon, ond ni chaiff ymyrryd â hi. Fodd bynnag, gall asiant pleidleisio drwy'r post wrthwynebu penderfyniad Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod pleidlais bost.xii  Ni fydd yn effeithio ar benderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol, ond bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cofnodi unrhyw wrthwynebiadau drwy roi'r geiriau 'gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod' ar y datganiad pleidleisio drwy'r post.

Yn yr un modd â'ch asiantiaid pleidleisio drwy'r post, mae gennych chi, eich asiant etholiad a'ch is-asiant(iaid) yr hawl i wrthwynebu penderfyniad i wrthod hefyd.

Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn egluro'r broses o agor amlenni pleidleisiau post i chi a gall ddosbarthu gwybodaeth am y gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar yr hyn y dylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud. Dylech gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau y mae'r Swyddog Canlyniadau Lleol wedi eu rhoi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023