| Argraffu'r canllawiau llawn

Defnyddio argraffnodau

Beth yw argraffnod?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd argraffedig er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei lunio. 1

Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy.

Mae ein canllaw i argraffnodau ymgeisydd yn esbonio'r rheolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn ymgyrchydd yn y math hwn o etholiad.

Dylech hefyd ychwanegu argraffnod i bob deunydd ymgyrchu arall am ei fod yn helpu i sicrhau bod yr ymgyrch yn dryloyw.

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau ar ddeunydd digidol penodol hefyd. Ar gyfer y gofynion argraffnodau ar ddeunydd digidol, gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2025