Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig1
ac rydym wedi darparu ffurflen cais am y gofrestr a ffurflen cais am y rhestr pleidleiswyr absennol at y diben hwn ar ein gwefan.
Er bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech hefyd gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, a all fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydgysylltu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn ardal yr heddlu.
Darperir y gofrestr a'r rhestrau ar ffurf electronig oni fydd cais penodol am gopi papur.
Bydd y fersiwn o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau a ddarperir yn gyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd wneud cais am ddiweddariadau i'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau a gyhoeddir yn y cyfnod cyn yr etholiad, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Gwneud cais am y gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad
Mae gan bleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig hefyd yr hawl i ofyn am gopi o'r gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar ba wybodaeth y gellir gofyn amdani, pryd a sut y gellir gofyn amdani, a'r defnyddiau a ganiateir o'r wybodaeth honno yn ein taflen ffeithiau: