Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Dyluniad papur pleidleisio
Rhifau papurau pleidleisio
Dylai rhifau papurau pleidleisio redeg yn olynol, ond nid oes rhaid iddynt ddechrau ar ‘1’. Dylai rhifau papurau pleidleisio fod yn unigryw, ac ni ddylid eu hailddefnyddio, er enghraifft dylid rhifo papurau pleidleisio gorsafoedd pleidleisio, papurau pleidleisio drwy'r post a phaprau pleidleisio a gyflwynwyd yn wahanol.
Y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio
Pennir y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio a rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth ofynnol yn cael ei chynnwys ar gefn y papur pleidleisio yn y fformat a nodwyd.1 Ni ddarperir ar gyfer rhoi unrhyw linellau na marciau eraill ar gefn y papur pleidleisio.
Marc adnabod unigryw
Gall y marc adnabod unigryw gynnwys llythrennau a rhifau a gall ailadrodd rhif y papur pleidleisio gyda rhagddodiad neu ôl-ddodiad. Gall marc adnabod unigryw hefyd fod yn god bar ond nid oes rhaid iddo fod. Mae'n bwysig cofio nad yw'r marc adnabod unigryw yr un peth â'r marc swyddogol.
O ran y marc adnabod:2
- dylai fod yn unigryw i bob papur pleidleisio
- gellir ei ailddefnyddio ar gyfer yr etholiad nesaf
- rhaid iddo gael ei argraffu ar gefn y papur pleidleisio
Y marc swyddogol
Marc diogelwch yw'r marc swyddogol y mae'n rhaid ei ychwanegu at eich papur pleidleisio.
O ran y marc swyddogol:3
- gall fod yr un fath ar gyfer pob papur pleidleisio mewn etholiad neu gellir defnyddio marciau swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad, er enghraifft, un ar gyfer pleidleisiau post a'r llall ar gyfer papurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
- ni ellir ei ailddefnyddio am saith mlynedd ar gyfer etholiad Senedd y DU yn yr un etholaeth
Dylai'r marc fod yn unigryw. Gallai fod yn arwyddlun wedi'i argraffu neu'n farc neu'n ddyfais argraffu arbennig megis dyfrnod. Gellid hefyd dyllu'r papur pleidleisio pan gaiff ei gyflwyno os caiff offerynnau stampio eu defnyddio er mwyn creu marc swyddogol wedi'i dyllu.
Dylai fod modd gweld y marc ar flaen y papur pleidleisio heb orfod troi'r papur pleidleisio drosodd.4
Lliw'r papur pleidleisio
Ni phennir lliw papurau pleidleisio a'ch cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar hyn.
Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i liw papurau pleidleisio a gyflwynwyd fod yn wahanol i liw papurau pleidleisio cyffredin.5
Wrth benderfynu ar liw'r papurau pleidleisio dylech ystyried materion hygyrchedd o ran lliw a chyferbyniad. Gweler ein canllawiau dylunio arfer dda, 'Making your mark’, i gael rhagor o wybodaeth am ddewis lliwiau ar gyfer papurau pleidleisio.
Etholaethau trawsffiniol ac etholiadau cyfunol
Dylech benderfynu ar gam cynnar yn y broses gynllunio ac mewn ymgynghoriad â'r Swyddog(ion) Canlyniadau llywodraeth leol yn eich etholaeth pa liw fydd papur pleidleisio Senedd y DU yn eich etholaeth. Dylech gydgysylltu â'r Swyddog(ion) Canlyniadau eraill yn eich etholaeth er mwyn sicrhau bod lliwiau'r papurau pleidleisio yn wahanol ar gyfer pob etholiad pe bai etholiad cyfunol.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 20 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 20 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 40(2) ↩ Back to content at footnote 5