Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Niferoedd i'w hargraffu

Fel rhan o'ch trafodaethau cynnar â'ch cyflenwr argraffu, mae'n rhaid i chi ystyried yn ofalus nifer y papurau pleidleisio y bydd angen eu hargraffu er mwyn caniatáu i chi ddyrannu nifer digonol o bapurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio a dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i nifer digonol o stoc papur gael ei chaffael.

Dylech seilio nifer y papurau pleidleisio a gaiff eu hargraffu ar y nifer mwyaf o etholwyr cymwys fydd yn pleidleisio, sef 100%. Mae risgiau sylweddol ynghlwm wrth argraffu papurau pleidleisio yn seiliedig ar nifer llai o etholwyr yn pleidleisio. Er enghraifft, os bydd nifer y papurau pleidleisio yn dechrau mynd yn brin ar y diwrnod pleidleisio, bydd yn anos bryd hynny i chi argraffu rhagor o bapurau pleidleisio a'u hanfon mewn pryd i'r gorsafoedd pleidleisio hynny lle mae prinder. 

Os penderfynwch, am unrhyw reswm, beidio ag argraffu, fel gofyniad sylfaenol, bapurau pleidleisio yn seiliedig ar y nifer mwyaf o etholwyr cymwys yn pleidleisio, dylech asesu'r risgiau yn ofalus.

Fel rhan o'ch asesiad risg dylech ystyried:

  • y nifer amcangyfrifedig a fydd yn pleidleisio, gan ystyried y potensial ar gyfer ymgysylltu a diddordeb hwyr – dylid defnyddio'r etholiad cyfatebol diwethaf fel y nifer disgwyliedig lleiaf a fydd yn pleidleisio 
  • cyd-destun penodol yr etholiad hwn
  • unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a all effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio
  • p'un a yw'n well cael stoc o bapurau pleidleisio ychwanegol sy'n barod i'w dosbarthu'n gyflym i orsafoedd pleidleisio, er enghraifft argraffu o leiaf 100% o bapurau pleidleisio ond peidio â dosbarthu 100% o bapurau pleidleisio argraffedig i orsafoedd pleidleisio  

Dylech gymryd camau hefyd i sicrhau y gellir argraffu papurau pleidleisio ychwanegol ar fyr rybudd os bydd angen a phenderfynu sut y byddai staff gorsafoedd pleidleisio yn cael eu briffio pe bai'r sefyllfa hon yn codi. 

Ceir canllawiau ar ddyrannu papurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023