Rhaid i ymgeiswyr ymddangos ar y papur pleidleisio fel y'u rhestrir yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Rhaid i'w henwau a'u manylion perthnasol ymddangos yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu.1
Rhaid i gyfenwau ymgeiswyr ymddangos mewn priflythrennau, gan gynnwys rhoi priflythrennau ar gyfer cyfenwau sy'n dechrau â MAC neu MC a dylai'r enwau ddilyn trefn yr wyddor yn llym e.e. MABBOT, MACLEAN, MATTHEWS, MCCORMICK, MORRISON.
Lle bo ymgeisydd wedi rhestru sawl enw fel ei gyfenw, boed â chysylltnod ai peidio, dylech gopïo'r enw cyfan fel y'i darparwyd. Er enghraifft, byddai Dick Van Dyke yn ymddangos fel VAN DYKE, Dick ar y papur pleidleisio ac, o ran gosod yn nhrefn yr wyddor, byddai'r cyfenw yn dechrau â V.
Yn yr un modd, byddai Ann Smith-Jones yn SMITH-JONES, Ann ar y papur pleidleisio a byddai'n dod o dan S o ran trefn yr wyddor.
Ym mhob achos, dylech ddefnyddio'r maint ffont mwyaf posibl. Er mwyn sicrhau cysondeb, dylid defnyddio'r un maint ffont ar gyfer pob ymgeisydd ar bob llinell gyfatebol..
Arwyddluniau
Os bydd yr ymgeisydd yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ac wedi gwneud cais i ddefnyddio arwyddlun, efallai y byddwch yn cael copi eglurder uchel o'r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu'r papurau pleidleisio. Fel arall, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho'r arwyddlun o'n gwefan. Dylech sicrhau bod pa gopi bynnag a ddefnyddir ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig.
Dau gentimetr sgwâr yw'r maint mwyaf y gellir ei gael ar gyfer arwyddlun ar y papur pleidleisio.2
Peidiwch ag addasu na chamystumio siâp yr arwyddlun er mwyn ffitio ar y papur pleidleisio. Dylech sicrhau bod yr arwyddlun ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig – er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau yn siapiau sgwâr os nad ydynt wedi'u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, oherwydd byddai hyn yn newid eu hymddangosiad.
1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19). Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015.↩ Back to content at footnote 1
2. Cyfarwyddiadau ar gyfer Argraffu'r Papur Pleidleisio. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015.↩ Back to content at footnote 2