Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dyrannu papurau pleidleisio

Rhaid i chi roi nifer y papurau pleidleisio y bydd eu hangen, yn eich barn chi, i bob gorsaf bleidleisio.1  

Fel rhan o'ch ystyriaeth, dylech amcangyfrif nifer y bobl y mae disgwyl iddynt bleidleisio. Dylech dybio na fydd y nifer a fydd yn pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn y bleidlais gyfatebol ddiwethaf, a dylech ystyried y potensial ar gyfer ymgysylltu'n hwyr a diddordeb hwyr yn yr etholiad, ac unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a all effeithio ar y nifer a fydd yn pleidleisio.  

Os byddwch yn penderfynu, am unrhyw reswm, na fyddwch yn dyrannu papurau pleidleisio i 100% o'r etholwyr sydd â hawl i bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio, dylech ystyried yn ofalus y nifer a fydd yn ofynnol ym mhob achos a sicrhau bod gennych gynlluniau ar waith i wneud yn siŵr y gellir darparu papurau pleidleisio ychwanegol i unrhyw orsaf bleidleisio y gall fod eu hangen arni mewn da bryd.  

Dylech hefyd sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn deall sut i gwblhau'r cyfrifon papurau pleidleisio er mwyn ystyried unrhyw ddyraniad ychwanegol.

Wrth ddyrannu papurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio, rhaid i chi sicrhau bod y rhifau ar y papurau pleidleisio a ddyrennir i bob gorsaf bleidleisio yn rhedeg yn olynol er mwyn osgoi unrhyw broblemau wrth gwblhau'r rhestr rhifau cyfatebol neu'r cyfrif papurau pleidleisio. Ceir canllawiau ar argraffu papurau pleidleisio yn Paratoi papurau pleidleisio a gwirio papurau pleidleisio cyn eu dyrannu.    

Rhaid i chi hefyd ddarparu papurau pleidleisio a gyflwynwyd i Swyddogion Llywyddu. Er mwyn osgoi rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd ar gam, mae'n arfer dda eu darparu mewn amlen wedi'i selio gyda'r canlynol:

  • cyfarwyddiadau yn nodi mai dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig a bennir ac ar ôl ymgynghori â'r swyddfeydd etholiadau y dylid agor yr amlen a dosbarthu'r papurau pleidleisio sydd ynddi
  • disgrifiad cryno o'r amgylchiadau hynny2
  • cyfarwyddiadau i gyfeirio at y llawlyfr i orsafoedd pleidleisio am ragor o wybodaeth
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Chwefror 2024