Dylech roi rhestrau o'r bobl hynny sydd â hawl i fod yn bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif i'r rheini sydd ar ddyletswydd wrth y fynedfa, a chyfarwyddo staff diogelwch i wirio tocynnau neu gardiau mynediad unrhyw un sy'n ceisio cael mynediad.
Fodd bynnag, dylech hefyd hysbysu staff diogelwch nad oes angen i gynrychiolwyr y Comisiwn nac arsylwyr achrededig roi gwybod ymlaen llaw ble maent yn bwriadu arsylwi ac felly na fydd eu henwau o bosibl yn ymddangos ar y rhestr, ond, er hynny, bod ganddynt hawl i gael mynediad i'r lleoliad dilysu a chyfrif os byddant yn dangos eu bathodyn adnabod arsylwr neu gynrychiolydd y Comisiwn.
Am resymau iechyd a diogelwch, dylech gofnodi enwau pawb sy'n bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech gydgysylltu â'r heddlu i gadarnhau y bydd eu cynlluniau ar gyfer rheoli'r mannau cyhoeddus y tu allan i'r lleoliad cyfrif yn ei gwneud yn bosibl i bobl sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn ystod y broses gyfrif ddod i mewn a gadael y lleoliad yn ddirwystr.
Rheoli'r rhai sy'n bresennol
Mae angen i bawb sy'n bresennol wybod beth i'w ddisgwyl a deall eu rôl yn y prosesau dilysu a chyfrif. I gefnogi hyn, dylai eich cynlluniau gynnwys dulliau i gyfathrebu â'r rhai sy'n bresennol a'u rheoli. Dylai'r cynlluniau hefyd nodi sut y byddwch yn cadw cyfrinachedd y bleidlais drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif, gan gynnwys ymgeiswyr, eu gwesteion, asiantiaid etholiadol, asiantiaid cyfrif a'r cyfryngau, yn cael eu briffio ar y ffordd y cynhelir y broses gyfrif a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt bob amser, a'u bod yn deall y rhain yn llawn.
Dylai eich briffiadau ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb nodi'n glir y byddwch yn gwahardd pobl o leoliad y broses gyfrif os bydd eu hymddygiad yn tarfu ar y gwaith o gynnal y broses gyfrif yn effeithiol. Dylai hyn helpu'r staff cyfrif i ddilysu a chyfrif pleidleisiau heb ymyrraeth gan asiantiaid cyfrif nac arsylwyr eraill.
Dylech hefyd benderfynu ar bolisi ynglŷn â defnyddio ffonau symudol a ffotograffiaeth neu ffilmio yn lleoliad y prosesau dilysu a chyfrif a rhoi'r wybodaeth hon ymlaen llaw i'r rhai sydd â'r hawl i fod yn bresennol.
Dylid dosbarthu tocynnau neu gardiau mynediad i bawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn y cyfrif, ac eithrio arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn a fydd yn gwisgo bathodynnau achredu arian neu binc. Dylech ystyried dosbarthu tocynnau neu gardiau mynediad mewn lliwiau gwahanol er mwyn nodi'r categorïau gwahanol o unigolion a fydd yn bresennol.