unrhyw unigolyn arall a gaiff ganiatâd gennych chi, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), i fod yn bresennol
Bydd angen i chi fod yn fodlon na fydd hynny'n amharu ar y gwaith o ddilysu neu gyfrif pleidleisiau'n effeithlon a'ch bod naill ai wedi ymgynghori â'r asiantiaid etholiadol neu wedi ystyried bod hynny'n anymarferol2
.
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau na fydd neb sy'n bresennol yn ymyrryd â chyfrinachedd y bleidlais nac yn ei pheryglu. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn briodol i sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn cael copi o'r gofynion perthnasol ynglŷn â chyfrinachedd3
.
Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi cyfleusterau rhesymol i asiantiaid cyfrif ar gyfer goruchwylio'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau. Dylech hefyd sicrhau y gall unrhyw un sydd â'r hawl i fod yn bresennol weld popeth sy'n digwydd yn glir, heb allu ymyrryd â gwaith eich staff4
.
Nid oes gofyniad i'r rhai sy'n bresennol gyrraedd erbyn amser penodol. Dylech gael proses ar waith i sicrhau bod y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol ddod i mewn pryd bynnag y byddant yn cyrraedd. Dylai'r broses hon hefyd adael i unrhyw un sy'n bresennol adael a dychwelyd yn ddiweddarach os byddant am wneud hynny.