Dylech gynnwys lle a chyfle i'r cyfryngau adrodd ar ganlyniadau'r etholiad. Gallwch benderfynu pa rai o gynrychiolwyr y cyfryngau a gaiff fod yn bresennol, yn ôl eich disgresiwn. Fel yn achos pawb sy'n bresennol, rhaid i chi sicrhau nad yw cynrychiolwyr y cyfryngau yn ymyrryd â'r broses nac yn peryglu cyfrinachedd y bleidlais.
Er mwyn gwneud paratoadau i gynrychiolwyr o'r cyfryngau fod yn bresennol yn ystod eich prosesau dilysu a chyfrif, dylech ystyried:
cysylltu â phrif sefydliadau darlledu ymlaen llaw
nodi pa gyfleusterau sydd ar gael i'r cyfryngau
trefnu bod systemau sain yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyhoeddiadau ac unrhyw ddarllediadau byw
rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r cyfryngau ymweld â'r lleoliad dilysu a chyfrif er mwyn gweld faint o le a chyfleusterau sydd ar gael, a rhoi cyfle iddynt godi unrhyw faterion neu ofynion gyda chi, gan gynnwys unrhyw ofynion technegol er mwyn osgoi problemau ar y noson a sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud wrth gynllunio'r lleoliad
sut y byddwch yn sicrhau bod y cyfryngau'n ymwybodol o unrhyw ardaloedd cyfyngedig a gweithdrefnau; e.e. bod gweithwyr camera yn gwybod na ddylent ffilmio gwybodaeth sensitif (fel siotiau agos o bapurau pleidleisio) na rhwystro staff cyfrif
Drwy gydol y gweithrediadau dylech sicrhau bod cynrychiolwyr y cyfryngau yn ymwybodol o'r canlynol:
y trefniadau ar gyfer datgan canlyniadau fel rhoi gwybod iddynt ychydig cyn i'r canlyniadau gael eu datgan fel y gallant fod yn barod a rhoi copïau ysgrifenedig o'r canlyniadau iddynt.
y trefniadau ar gyfer defnyddio systemau sain ar gyfer y cyhoeddiadau ac unrhyw ddarllediadau byw ac â phwy i gysylltu os gofynnir unrhyw gwestiynau etholiadol technegol
yr amseroedd gorffen a datgan disgwyliedig ar gyfer pob digwyddiad pleidleisio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyfrif pleidleisiau mewn mwy nag un etholiad
bod siaradwr â'r cyfryngau yn cael ei enwebu ar gyfer y cyfrif a fydd ar gael i ddelio ag ymholiadau gan y cyfryngau
Os yw cynrychiolwyr o'r cyfryngau wedi cael eu hachredu’n arsylwyr gan y Comisiwn a'u bod yn bresennol yn rhinwedd y rôl honno, mae ganddynt yr un hawliau a rhwymedigaethau ag unrhyw arsylwr achrededig arall. Fel unrhyw arsylwyr eraill, mae'n ofynnol iddynt ystyried Cod ymarfer y Comisiwn i arsylwyr a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad a wnewch ynghylch defnyddio camerâu ac offer recordio arall1
.
Llyfryn Arsylwyr yn etholiadau'r DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu'r mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Er mwyn eich helpu chi a'ch tîm cysylltiadau cyhoeddus, rydym wedi cynhyrchu, ar y cyd â darlledwyr newyddion teledu cenedlaethol, rai 'awgrymiadau ar gyfer rheoli'r cyfryngau yn ystod y broses gyfrif.
Bydd y Comisiwn yn llunio llawlyfr ar gyfer y cyfryngau y gallwch ei gynnwys gydag unrhyw becyn gwybodaeth rydych yn ei lunio ar gyfer y cyfryngau a fydd yn bresennol yn ystod y dilysu a'r cyfrif.
1. Paragraffau 48(3)(b) a 51(3)(b) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1