Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Amcangyfrif faint o amser y bydd yn ei gymryd i ddilysu a chyfrif y papurau pleidleisio

Mae sawl peth y gallwch ei ystyried ar gam cynnar er mwyn helpu i amcangyfrif faint o amser y bydd pob cam o'ch prosesau dilysu a chyfrif yn ei gymryd. Dylai hyn gynnwys:

  • nifer y staff ac unrhyw fformiwlâu staffio sydd gennych ar waith, e.e. nifer y papurau pleidleisio a gyfrifir bob awr fesul cynorthwyydd cyfrif 
  • ai etholiad annibynnol neu etholiadau cyfun sydd dan sylw
  • nifer y papurau pleidleisio a broseswyd mewn etholiad cyfatebol blaenorol
  • y fethodoleg a ddefnyddiwyd mewn etholiadau blaenorol, e.e. dulliau mini gyfrif 
  • yr amser a gymerodd mewn etholiadau cyfatebol blaenorol i gwblhau camau gwahanol o'r prosesau dilysu a chyfrif 

Dylech rannu'r amseroedd hyn â rhanddeiliaid ynghyd â'r rhagdybiaethau sy'n sail iddynt. Fodd bynnag, dylech rybuddio rhanddeiliaid hefyd mai dim ond amseroedd dangosol yw'r rhain ac y gallant newid ar y noson – er enghraifft, os bydd y nifer y pleidleiswyr yn sylweddol uwch neu is na'r disgwyl.

Efallai y bydd gan rai rhanddeiliaid ddisgwyliadau afrealistig ynglŷn â pha mor gyflym y gellir cwblhau'r prosesau a gall hyn arwain at densiwn a rhwystredigaeth yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif. Er mwyn rheoli disgwyliadau, dylech egluro'n fanwl y prosesau dan sylw, faint o amser y mae pob cam yn debygol o'i gymryd a'r adnoddau rydych wedi'u rhoi ar waith.  

Cyfuno Cynnal Pleidleisiau

Ar gyfer etholiad Senedd y DU dylech sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymwybodol nad oes rhaid i chi aros nes eich bod wedi cwblhau dilysu pob pleidlais, lle rydych yn cyflawni swyddogaeth gyfun y Swyddog Canlyniadau, cyn i chi allu dechrau cyfrif y pleidleisiau.1  

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023