Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio
Mae deall nifer y papurau pleidleisio y bydd angen ymdrin â nhw yn ffactor hanfodol wrth gynllunio, a bydd yn helpu i bennu'r adnoddau y bydd eu hangen ar gyfer y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech ystyried yr amcangyfrifon canlynol:
- nifer yr etholwyr
- nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
- nifer y papurau pleidleisio a ddychwelwyd drwy'r post
- nifer y papurau pleidleisio amheus y bydd angen gwneud dyfarniad yn eu cylch
Etholwyr
Byddwch yn gallu amcangyfrif nifer yr etholwyr cymwys drwy ddefnyddio'r ffigur ar ôl cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig fel llinell sylfaen, ond gan gyfrif am gynnydd tebygol yn nifer y bobl a fydd yn cofrestru cyn yr etholiadau.
Gall dadansoddi'r cynnydd yn nifer yr etholwyr cyn yr etholiadau diwethaf a drefnwyd roi syniad i chi o'r cynnydd canrannol yn nifer yr etholwyr y gallwch ei ddisgwyl yn yr etholiadau.
Dylech hefyd ystyried unrhyw gynnydd posibl a all ddeillio o weithgarwch cofrestru y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ei wneud. Dylech hefyd allu adolygu'r amcangyfrif hwnnw'n barhaus drwy fonitro'r diweddariadau misol i'r gofrestr.
Os nad ydych yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol i gael y data cofrestru. Yn yr un modd, os ydych yn Swyddog Canlyniadau mewn etholaeth drawsffiniol, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar draws yr etholaethau er mwyn cael y data perthnasol.
Papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
Byddwch yn gallu amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd y gallai fod yn rhaid i chi eu prosesu o orsafoedd pleidleisio drwy luosi nifer amcangyfrifedig yr etholwyr â nifer disgwyliedig y pleidleiswyr. Yna, gallwch nodi nifer y papurau nas defnyddiwyd y bydd angen eu dilysu hefyd, fel y nodir yn y tabl enghreifftiol canlynol:
Nifer yr etholwyr cymwys (pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio) | Nifer disgwyliedig y pleidleiswyr (e.e. 69.1%) | Nifer y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (e.e. 30.9%) |
---|---|---|
68,175 | 47,108 | 21,067 |
Bydd y cyfrifiad uchod yn rhoi amcangyfrif cadarn i chi o nifer y papurau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio y bydd angen i chi eu rheoli yn ystod y dilysu a'r cyfrif, ond dylech gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd yn eich cynlluniau er mwyn sicrhau eich bod yn barod i ddelio â mwy o bleidleiswyr a/neu etholwyr na'r disgwyl.
Er ei bod yn debygol mai nifer bach o bapurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen eu dilysu, dylech hefyd ystyried nifer y papurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen i chi eu rheoli, a chynllunio ar gyfer sut y byddwch yn gwneud hyn.
Nifer y pleidleisiau post a ddychwelir a sut i'w rheoli
Bydd y gofrestr ddiwygiedig a gyhoeddir yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer nifer y pleidleiswyr post yn eich ardal, a dylech ystyried y cynnydd canrannol cyn etholiadau tebyg blaenorol hefyd. Dylech hefyd ystyried unrhyw weithgarwch cofrestru sy'n cael ei wneud gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn yr etholiad.
Drwy fonitro'r rhestr pleidleiswyr absennol yn rheolaidd, byddwch yn gallu adolygu eich amcangyfrif yn barhaus. Mewn etholaethau trawsffiniol bydd angen i chi gydgysylltu â Swyddogion Canlyniadau ar draws yr etholaeth er mwyn sicrhau bod eu hamcangyfrifon ar gyfer yr etholaeth gyfan yn gadarn.
Gan ddefnyddio'r dybiaeth o ran nifer y pleidleiswyr ar gyfer yr ardal etholiadol honno, gallwch wedyn gyfrifo cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy'r post y gallai fod yn rhaid i chi eu prosesu. Gallwch wedyn adolygu'r ffigur hwn yn barhaus drwy fonitro nifer y pleidleisiau post a ddychwelir yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio, ac ystyried dadansoddiad o batrwm y pleidleisiau post a ddychwelwyd mewn etholiadau cyfatebol blaenorol wrth gynllunio.
Cynllunio ar gyfer prosesu pleidleisiau post a gyflwynir ar y diwrnod pleidleisio
Gall yr amser a gymerir i ddilysu pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsafoedd pleidleisio arwain at oedi o ran dilysu a chyfrif. Bydd angen i chi gynllunio sut y byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw oedi yn sgil aros i'r pleidleisiau post olaf gyrraedd a'u prosesu. Dylai casglu pleidleisiau post yn rheolaidd yn ystod y dydd helpu i leihau unrhyw oedi.
Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau ar gyfer dilysu datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio yn effeithlon, gan gynnwys:
- a fydd y dynodyddion ar bleidleisiau post yn cael eu gwirio yn y lleoliad dilysu neu yn rhywle arall? Os cynhelir y broses yn y lleoliad dilysu, mae hyn yn debygol o fod yn fwy cyfleus o safbwynt galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i arsylwi a bydd yn symlach o safbwynt cludo, ond mae risgiau ynghlwm wrth symud trefniadau ac offer sefydledig i leoliad arall.
- a fydd angen symud offer neu a fydd angen rhoi offer ychwanegol ar waith i hwyluso'r broses ddilysu? Os felly, dylech sicrhau y caiff yr offer eu profi ymlaen llaw
- a oes gennych y lefelau staffio priodol i sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth ddilysu'r pleidleisiau post hyn?
Bydd angen i chi benderfynu sut i reoli'r broses o ddilysu dynodyddion ar bleidleisiau post a ddychwelir os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd neu os bydd gan fwy nag un Swyddog Cofrestru Etholiadol y cofnod o ddynodyddion personol sy'n cynnwys llofnodion a dyddiadau geni rhai o'r etholwyr, am fod yr ardal etholiadol berthnasol yn croesi ffiniau.
Bydd angen i chi sicrhau na fydd eich trefniadau ar gyfer gwirio'r dynodyddion personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy’r post a ddychwelir ar y diwrnod pleidleisio yn arwain at oedi o ran dilysu a chyfrif.
Rheoli papurau pleidleisio amheus
Bydd nifer y papurau pleidleisio amheus y gall fod angen gwneud dyfarniad yn eu cylch am nad yw'r pleidleisiwr wedi marcio'r papur pleidleisio yn unol â'r cyfarwyddiadau, yn effeithio ar yr adnoddau y gallai fod eu hangen ar gyfer y prosesau dilysu a chyfrif hefyd. Drwy ddadansoddi canlyniadau etholiadau tebyg blaenorol, dylech allu amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio amheus y gall fod angen eu prosesu yn ystod y broses gyfrif.