Fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth, mae'n ofynnol i chi wneud trefniadau i ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.1
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn pennu bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn pedair awr ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.2
Mae'r ddyletswydd hon yn ymwneud â chyfrif y pleidleisiau, ac nid â'r broses ddilysu. Ceir canllawiau ar yr hyn y bydd angen i chi ei wneud os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau yn y cyfrif.
Dylech wneud penderfyniadau ynglŷn â phryd y byddwch yn dechrau'r cyfrif cyn i'r hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi a dylid rhoi gwybod i'r rhai sydd â diddordeb, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol lleol a darlledwyr, ar gam cynnar. Bydd disgwyliad ymhlith ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau y bydd y canlyniadau'n cael eu datgan cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau. Felly, bydd angen i chi gynllunio'n ofalus sut y byddwch yn rheoli disgwyliadau ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau.
Methodoleg
Bydd y ffordd y byddwch yn trefnu'r prosesau dilysu a'r cyfrif yn effeithio ar faint o amser y byddant yn eu cymryd.
Dylech ystyried defnyddio dull cyfrif bach wrth gynllunio eich prosesau dilysu a chyfrif. Cydnabyddir yn eang fod rhannu'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn ardaloedd sy'n llai na'r ardal etholiadol berthnasol yn effeithiol iawn o ran sicrhau canlyniad cywir ac amserol ac iddo drywyddion archwilio clir.
Yna, caiff canlyniadau'r ardaloedd hynny eu cydgrynhoi er mwyn cael canlyniad cyffredinol ar gyfer yr ardal etholiadol berthnasol. Bydd unrhyw broblemau cyfrif a all godi wedi'u cyfyngu i ardal fwy hydrin a gellir cyfyngu ar unrhyw ailgyfrif a all ddigwydd o ganlyniad i hyn.
Bydd angen i chi benderfynu a fyddwch yn achub ar y cyfle i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.
Dylech neilltuo digon o amser i gynnal proses gyfrif drefnus a sicrhau canlyniad cywir y gall pleidleiswyr, ymgeiswyr ac asiantiaid ymddiried ynddo.
Cyfuno
Ar gyfer etholiadau cyfun, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
A fydd angen i chi gydgysylltu ag unrhyw Swyddogion Canlyniadau perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod eich cynlluniau'n cyd-fynd â'r cynlluniau cyffredinol?
Bydd hefyd angen i chi benderfynu:
A fyddwch yn cynnal eich prosesau cyfrif ar amseroedd a diwrnodau gwahanol er mwyn rheoli nifer y bobl sy'n bresennol?
A fydd y gofynion deddfwriaethol o ran pryd y dylai ymgeiswyr ddechrau yn y swydd yn effeithio ar eich cynlluniau?