Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Sicrhau bod papurau pleidleisio yn ddiogel os bydd yn rhaid gwacáu'r lleoliad

Weithiau, bydd pethau'n digwydd yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif a all arwain at wacáu'r lleoliad, naill ai'n barhaol neu nes bydd y sefyllfa wedi'i datrys.  

Yn amlwg, o dan yr amgylchiadau hyn, mae diogelwch y bobl sy'n bresennol yn hollbwysig ond efallai na fydd sefyllfaoedd penodol yn peri risg uniongyrchol i ddiogelwch y staff. Gall paratoi cynlluniau gwacáu ymlaen llaw helpu i gynnal uniondeb y prosesau dilysu a chyfrif a diogelwch y papurau pleidleisio.  

Os bydd yn rhaid gwacáu'r lleoliad ar frys, efallai y bydd modd diogelu'r papurau pleidleisio sydd ar y byrddau o hyd drwy gloi'r lleoliad neu eu storio mewn ystafell dan glo yn y lleoliad. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi gael yr holl allweddi i'r ystafell honno neu'r lleoliad. Os bydd gennych fwy o amser, efallai y bydd modd gosod y papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio cyn selio'r blychau pleidleisio (gan wahodd asiantiaid i osod eu seliau arnynt os yw hynny'n bosibl) ac yna storio'r blychau wedi'u selio mewn man diogel yn y lleoliad.

Weithiau, bydd y sefyllfa'n golygu y bydd y papurau pleidleisio yn debygol o gael eu difrodi os cânt eu gadael yn y lleoliad.  Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd modd i'r staff roi'r papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio a'u symud o'r lleoliad nes y gall y prosesau dilysu a chyfrif ailddechrau. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn ddefnyddiol cael protocol clir ar gyfer selio'r papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio a labelu'r blychau hynny'n glir. Dylech hefyd ystyried sut y byddech yn sicrhau bod blychau pleidleisio'n cael eu cludo'n ddiogel a'u storio o dan yr amgylchiadau hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023