Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Os nad oes unrhyw wrthwynebiad i bapurau enwebu, rhaid i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ar gyfer yr etholaeth am 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. 

Os oes gwrthwynebiadau, rhaid cyhoeddi'r datganiad erbyn 4pm ar y diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau.1  

Cynnwys y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Rhaid i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi'i enwebu'n ddilys:

  • enw
  • cyfeiriad cartref, neu, os ydynt wedi gwneud cais i beidio â gwneud eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus:
     
    • os yw eu cyfeiriad cartref yn y DU, etholaeth Seneddol y DU, yr ardal berthnasol lle mae eu cyfeiriad cartref neu'r wlad fel y bo'n briodol
  • disgrifiad (os o gwbl)
  • enwau'r llofnodwyr (hyd at 30, o'r ‘ffurflen enwebu dethol’ a hyd at ddau arall os cyflwynwyd sawl ffurflen enwebu)
  • yn achos y rheiny nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, y rheswm dros hynny

Rhaid iddo hefyd gynnwys y rheini nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, a'r rheswm pam (h.y. y rheiny sydd wedi tynnu'n ôl neu rydych wedi gwrthod eu henwebiad).2   

Dylai eich hysbysiad preifatrwydd ei gwneud hi'n glir, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, ei bod hi'n ofynnol i chi gyhoeddi enw a chyfeiriad yr ymgeiswyr yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ystyriaethau diogelu data hysbysiad preifatrwydd yn ein canllawiau ar ddiogelu data

Rhaid i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gynnwys yr hysbysiad pleidleisio hefyd os ymleddir yr etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hysbysiad pleidleisio yn ein canllaw ar gyhoeddi'r datganiad o bleidlais

Trefn enwau ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Rhaid i enwau'r ymgeiswyr gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor o ran eu cyfenw.3 Dyma sut y byddant yn ymddangos ar y papur pleidleisio hefyd.4   

Os bydd gan ddau neu fwy o ymgeiswyr yr un cyfenw, yr enwau eraill yn nhrefn yr wyddor fydd yn pennu pa ymgeisydd a gaiff ei restru gyntaf.5  

Os bydd unigolyn wedi gofyn am gael defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei ffurflen enwebu, rhaid i'r enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddangos ar y datganiad yn hytrach na'i enw gwirioneddol.6  

Pan fydd ymgeisydd wedi gofyn am gael defnyddio cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i safle'r ymgeisydd o ran trefn yr wyddor ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ac ar y papur pleidleisio gyfeirio at ei gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin.

Fodd bynnag, os ydych wedi gwrthod y defnydd o unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin gan eich bod o'r farn ei fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu ei fod yn anweddus neu'n sarhaus, rhaid i'r enw gwirioneddol, yn ôl y gyfraith, gael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd yn lle'r enw a ddefnyddir yn gyffredin.

Ystyriaethau lle mae ymgeisydd wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi 

Os bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi:

  • gofyn am i'w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, a
  • darparu'r un ardal berthnasol yn y DU (neu'r un wlad) ar eu ffurflen cyfeiriad cartref ag ymgeisydd arall/ymgeiswyr eraill

Mae'n rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch.7   

Os byddwch yn ystyried mai dyma yw'r achos, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen enwebu fel sy'n briodol, yn eich barn chi, i leihau'r tebygrwydd o ddryswch.8      

Rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny, cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. 

Rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw yn ysgrifenedig am yr wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.9  

Dylai fod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau sicrwydd ansawdd, ac yn y rhestr wirio sicrhau ansawdd ganlynol.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2024