gan ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch
Ni ellir llunio'r ffurflen enwebu na'r papurau pleidleisio mewn unrhyw iaith na fformat arall.3
Mae'n rhaid i'r copïau llaw wedi'u chwyddo a'r copïau arddangos o'r papur(au) pleidleisio i'w defnyddio yn yr orsaf bleidleisio gynnwys y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr wedi'u hargraffu ar frig y papur(au). Gellir cyfieithu'r cyfarwyddiadau hyn i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.4
Sicrhau bod gwybodaeth ar hysbysiadau yn hygyrch
Dylech sicrhau bod unrhyw wybodaeth am yr etholiadau, gan gynnwys yr hysbysiadau etholiad a'r hysbysiadau pleidleisio:
ar gael yn hawdd i bob pleidleisiwr
ar gael mewn fformat hygyrch
ar gael mewn pryd i bleidleiswyr fwrw eu pleidlais
Gellir darparu gwybodaeth ar wefan yr awdurdod lleol.
Dylai'r wybodaeth a ddarperir ar eich gwefan fod yn hygyrch i bleidleiswyr. Gallech siarad â swyddog cydraddoldebau neu dîm gwe eich awdurdod am gyngor ar sut i wneud hyn.
Os byddwch yn darparu gwybodaeth ar ffurf PDF, dylech fod yn ymwybodol os na chaiff camau penodol eu dilyn wrth greu dogfennau PDF, efallai na fyddant yn gydnaws â darllenwyr sgriniau a thechnolegau cynorthwyol eraill.
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllaw ar lunio dogfennau PDF hygyrch y gallwch gyfeirio ato.