Dylech baratoi cofnodlyfr gorsaf bleidleisio er mwyn i staff gorsafoedd pleidleisio ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw broblemau neu anghysonderau.
Dylech gyfarwyddo staff gorsafoedd pleidleisio i gofnodi'r canlynol yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio:
unrhyw achosion lle mae angen iddynt ofyn y cwestiynau rhagnodedig o ganlyniad i achos lle amheuir cambersonadu, gan nodi cymaint o wybodaeth â phosibl, er enghraifft, unrhyw nodweddion arbennig, a all helpu unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Mae Atodiad 7 i'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio yn nodi'r weithdrefn ar gyfer delio â chambersonadu, sy'n cynnwys gofyn y cwestiynau rhagnodedig.
enw a chyfeiriad unrhyw bleidleisiwr na all bleidleisio am unrhyw reswm gweinyddol
unrhyw beth a all helpu i esbonio unrhyw broblemau gyda'r cyfrifon papurau pleidleisio ar adeg dilysu – er enghraifft, os gwelwyd pleidleisiwr yn gadael yr orsaf bleidleisio gyda phapur pleidleisio. Dylech ystyried cyfarwyddo Swyddogion Llywyddu i gadw'r cofnodlyfr a'r cyfrif papurau pleidleisio gyda'i gilydd wrth drosglwyddo'r papurau pleidleisio i'r cyfrif.
manylion pawb sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion arsylwi gweithrediadau, gan gynnwys ymweliadau gan yr Heddlu a staff y Swyddog Canlyniadau
unrhyw adegau pan fyddant yn cyfyngu dros dro ar nifer yr arsyllwyr a all aros yn yr orsaf bleidleisio, er mwyn sicrhau y gall y bleidlais fynd yn ei blaen yn effeithiol
achosion lle maent yn arsylwi rhywun yn ceisio mynd gyda phleidleisiwr i'r bwth pleidleisio nad yw'n gydymaith penodedig iddo nac yn blentyn, a'r camau a ddilynodd
os yw ymgyrchydd gwleidyddol wedi rhoi gwybod iddynt ei fod yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran pobl nad ydynt yn berthnasau agos neu bobl y maent yn darparu gofal ar eu cyfer ond yn gwrthod trosglwyddo'r pleidleisiau post i'w gwrthod
unrhyw adborth ar y defnydd o unrhyw offer penodol a ddarparwyd i'r orsaf bleidleisio
manylion defnyddiol am unrhyw sefyllfaoedd anodd a gafwyd
Os byddwch yn poeni bod cambersonadu wedi digwydd mewn gorsaf bleidleisio, dylech gysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol a gallwch hefyd gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth ychwanegol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynnal uniondeb yr etholiad.