Dylech sicrhau bod trefniadau dirprwyo ar waith rhag ofn na allwch weithredu'n bersonol fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Gallwch benodi dirprwyon i'ch helpu i gyflawni eich holl gyfrifoldebau neu rai ohonynt1
a gall hyn fod am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol.
Dylai unrhyw ddirprwyon a gaiff eu penodi feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ymgymryd â'r swyddogaethau a neilltuwyd iddynt megis helpu i dderbyn papurau enwebu, rheoli'r broses pleidleisiau post neu wneud dyfarniadau ynghylch papurau pleidleisio amheus.
Dylech gadarnhau unrhyw benodiadau'n ysgrifenedig a chynnwys manylion y swyddogaethau y mae'r dirprwy wedi'i awdurdodi i'w harfer ar eich rhan. Dylid derbyn y penodiad yn ysgrifenedig hefyd.
Mae Dirprwy Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn atebol, yn yr un ffordd â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), am dorri dyletswydd swyddogol. 2
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol dylech ystyried a ydych am ddirprwyo rhai o'ch swyddogaethau yn llawn neu'n rhannol i uwch swyddog yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill.