Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Bwrw golwg dros y dynodyddion personol
Rhaid i chi fwrw golwg dros y dynodyddion ar yr holl ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.1
Os ydych wedi dirprwyo'r awdurdod i berson arall wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post wrth ddilysu dynodyddion pleidleisio drwy'r post, dylech roi copi o Ganllawiau'r Comisiwn a'r Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion i'r unigolyn a rhoi cyfarwyddyd iddo i'w dilyn.
Yn y tablau isod ceir canllaw ar wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid derbyn neu wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.
Pryd i dderbyn datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelyd:
| Wedi darparu Ilofnod? | Wedi darparu dyddiad geni? | Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu? |
|---|---|---|
| Gwag | Do | Ie |
| Do | Wedi'i ddarparu ond mewn fformat gwahanol, e.e. mae'r dyddiad a'r mis wedi'u trawsosod – ac rydych wedi'ch bodloni mai'r dyddiad geni a roddwyd yw'r un dyddiad geni ar gofnod y pleidleisiwr drwy'r post | Dd/G |
Pryd i wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd:
| Wedi darparu Ilofnod? | Wedi darparu dyddiad geni? | Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu? |
|---|---|---|
| Gwag | Do | Na |
| Gwag | Gwag | Ie |
| Do | Gwag | Na |
| Do | Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post | Na |
| Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post | Do | Na |
| Do | Dyddiad y cwblhawyd y bleidlais bost wedi'i ddarparu drwy gamgymeriad | Dd/G |
Nid oes rhaid i'ch penderfyniad ynghylch datganiad pleidleisio drwy'r post fod yn seiliedig ar y wybodaeth ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a'r cofnod dynodyddion personol yn unig.
Pan fyddwch yn penderfynu, gallwch gyfeirio at ffynonellau eraill, er enghraifft, y llofnod a ddarparwyd ar ffurflen gofrestru, neu ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych. Er enghraifft, efallai y bydd etholwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod wedi torri ei fraich ers rhoi ei ddynodyddion i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ac na all lofnodi ei enw yn ôl yr arfer.
Gallech benderfynu derbyn ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post fel un dilys os byddwch yn fodlon ar hyn, hyd yn oed os yw'r llofnod yn edrych yn wahanol i'r un ar y cofnod dynodyddion personol.
Dylai pob penderfyniad ar ddatganiad pleidleisio drwy'r post fod ar sail unigol.
Rhaid i unrhyw achos o ddiffyg llofnod (lle nad yw'r etholwr wedi cael hepgoriad) neu ddyddiad geni arwain at wrthodiad.2
Wrth ddilysu datganiad pleidleisio drwy'r post, nid yw'r llofnod na'r dyddiad geni yn bwysicach na'i gilydd - rhaid rhoi'r ddau (oni fydd yr etholwr wedi cael hepgoriad o ran rhoi llofnod), a rhaid i'r ddau gyfateb.3
Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post wrthwynebu datganiad pleidleisio drwy'r post.4
Os byddant yn gwrthwynebu penderfyniad i wrthod, rhaid nodi ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ ar y datganiad pleidleisio drwy'r post cyn ei atodi i amlen y papur pleidleisio a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
Nid oes gan arsylwyr achrededig na chynrychiolwyr y Comisiwn yr hawl i wrthwynebu achos o wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post.
- 1. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, Atodlen 2, paragraff 51 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 51(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 51(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 51(4) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4