Wrth lunio canllawiau i helpu eich staff i brawfddarllen deunyddiau etholiad, dylid rhoi sylw arbennig i sicrhau:
bod yr holl fanylion ar y papur pleidleisio wedi'u sillafu'n gywir
bod enwau a chyfeiriadau etholwyr yn gywir ac yn cyfateb i'r rheini ar y gofrestr etholiadol / rhestrau pleidleiswyr absennol
bod y deunyddiau a gaiff eu hanfon at etholwyr yn gywir ar eu cyfer (e.e. yr anfonir y papur pleidleisio cywir ar gyfer eu hardal etholiadol; yr anfonir cardiau pleidleisio ar gyfer dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post at bob dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post)
lle y bo'n berthnasol, bod y dyddiadau cau cywir yn ymddangos (er enghraifft, ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost/pleidlais drwy ddirprwy ar gardiau pleidleisio)
lle y rhagnodir ffurflen, ei bod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig
Mewn perthynas â'r papur pleidleisio, dylech hefyd wirio'r canlynol:
bod y cyfarwyddiadau argraffu wedi'u dilyn yn fanwl
bod y marc swyddogol a'r marc adnabod unigryw wedi'u hargraffu'n gywir
bod y papur pleidleisio yn cynnwys manylion pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol benodol honno; fel rhan o hyn, dylech wirio'r canlynol:
bod enw pob ymgeisydd (neu enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin lle y bo'n berthnasol) yn gywir
bod y cyfarwyddiadau ar frig pob papur pleidleisio yn gywir ar gyfer yr ardal etholiadol honno
Mewn perthynas â'r datganiad pleidleisio drwy'r post, dylech hefyd wirio'r canlynol:
bod y rhifau papur pleidleisio cywir wedi'u hargraffu
bod y cyfarwyddiadau pleidleisio cywir ar gyfer yr ardal etholiadol wedi'u cynnwys
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].