| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwiriadau sicrhau ansawdd ar ôl cynhyrchu

Unwaith bod eich deunyddiau etholiad wedi'u cynhyrchu, bydd angen i chi sicrhau bod eich holl ddeunyddiau wedi cael eu hargraffu, eu casglu ynghyd a'u paratoi ar gyfer eu hanfon at etholwyr, neu eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, heb unrhyw wallau.  

Dylid cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd cyn gynted â phosibl i atal unrhyw oedi yn y broses paratoi ac anfon.

Gwirio pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi cyn eu hanfon

Dylai gwiriadau sicrhau ansawdd pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi gynnwys gwirio'r canlynol:

  • bod rhifau'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'w gilydd,
  • bod enwau/cyfeiriadau wedi'u personoli yn ymddangos yn unol â'r disgwyl mewn ffenestri,
  • bod pob pecyn yn cynnwys yr eitemau cywir (e.e. bod y papurau pleidleisio cywir a'r amlen ateb gywir wedi cael eu cynnwys)

Dylech gynnal hapwiriadau o'r holl becynnau er mwyn sicrhau bod trawstoriad cynrychioliadol wedi cael ei wirio, gydag o leiaf ddau becyn o bob swp o 250 o becynnau sy'n cyfateb yn fras i ‘fasged’ Post Brenhinol lawn.

Dylai gwiriadau penodol o unrhyw gyfresi sy'n cynnwys eitemau ychwanegol (e.e. lle y bydd is-etholiad yn golygu y caiff papur pleidleisio ychwanegol ei gynnwys).

Dylech gadw llwybr archwilio clir o'r gwaith prawfddarllen a'r prosesau sicrhau ansawdd a ddilynwyd naill ai gan eich staff neu gan eich cyflenwr, fel y gallwch gyfeirio'n ôl ato os bydd unrhyw beth yn codi wedyn.

Gallwch ddod o hyd i fwy o ganllawiau i'ch helpu gyda'r broses hon yn yr adran Sicrhau ansawdd a phrawfddarllen deunyddiau etholiad a cheir canllawiau pellach ar sicrhau ansawdd y broses anfon yn ein hadran ar bleidleisio absennol. 

Gwirio llyfrau papurau pleidleisio cyn eu dyrannu

Pan fyddwch yn cael y llyfrau papurau pleidleisio wedi'u hargraffu, cyn i unrhyw bapurau pleidleisio gael eu dosbarthu i orsaf bleidleisio, dylech wirio'r canlynol:

  • bod y papur pleidleisio cyntaf a'r un olaf o leiaf ym mhob llyfr a thrwy gadarnhau bod rhifau papurau pleidleisio ym mhob llyfr neu becyn yn rhedeg yn olynol
  • bod yr holl fanylion wedi'u sillafu'n gywir
  • bod pob arwyddlun y gofynnwyd yn ddilys amdano wedi ei gynnwys wrth ymyl enw'r ymgeisydd cywir a'i fod yn cyfateb i gofrestr y Comisiwn
  • bod y disgrifiad o'r ymgeisydd wedi cael ei argraffu yn y llinell ar gyfer yr ymgeisydd cywir
  • bod y cyfarwyddiadau pleidleisio ar frig y papur pleidleisio yn cyfateb i'r gofynion deddfwriaethol
  • bod y papurau pleidleisio wedi cael eu torri i'r maint cywir
  • bod y marc swyddogol wedi'i gynnwys

Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu

Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.

Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026