Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleiswyr absennol

Rhaid i chi ddarparu'r rhan briodol o'r gofrestr etholiadol i bob Swyddog Llywyddu ar gyfer ei orsaf bleidleisio a'r rhestrau pleidleisio absennol priodol.1  

Dylai staff gorsafoedd pleidleisio fod wedi cael hyfforddiant ar y gwahanol farcwyr etholfraint a fydd yn ymddangos ar y gofrestr.2 Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu manylion personol pleidleiswyr ar y gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol. 

Gellir argraffu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio pan fydd yr hysbysiad newid etholiad terfynol wedi'i gyhoeddi, sef pum diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.3  Fodd bynnag, dylech sicrhau bod pob cofrestr gorsaf bleidleisio argraffedig:

  • wedi'i gwirio er mwyn sicrhau ei bod yn gyflawn
  • yn adlewyrchu unrhyw beth sydd wedi'i ychwanegu at y gofrestr neu ei ddileu ohoni yn ddiweddar
  • yn cynnwys yr argraffnodau etholfraint priodol.

Nid oes dyddiad cau deddfwriaethol ar gyfer penderfynu ar geisiadau pleidleisio absennol. Fodd bynnag, os oes angen y bleidlais absennol ar gyfer etholiad sydd i ddod, dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol eisoes) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais absennol a'r broses ar gyfer diweddaru cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol a chyfathrebu diweddariadau i staff gorsafoedd pleidleisio fel y gallwch sicrhau bod cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a'r rhestrau pleidleisio absennol yn gywir.

Unwaith y bydd y cofrestrau wedi’u hargraffu dylech gyfarwyddo eich Swyddogion Llywyddu i wirio:

  • eu bod wedi derbyn y gofrestr gywir ar gyfer eu gorsaf bleidleisio
  • bod y gofrestr yn cynnwys y nifer disgwyliedig o etholwyr a ddyrennir i'w gorsaf bleidleisio

Newidiadau i'r gofrestr 

Dylai fod gweithdrefnau ar waith gennych i ymdrin ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol a wneir cyn y diwrnod pleidleisio neu ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Dylai'r gweithdrefnau hyn gwmpasu eich dull ar gyfer:

  • diwygio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau o ddirprwyon ar ôl iddynt gael eu hargraffu, o ganlyniad i benderfyniadau ar geisiadau am bleidlais absennol, gwallau clercol, caniatau ceisiadau am ddirwy mewn argyfwng neu gymeradwyo ceisiadau am bleidlais bost yn hwyr
  • cyfleu'r wybodaeth berthnasol i Swyddogion Llywyddu. Gellir gwneud hyn ar lafar neu'n ysgrifenedig

Ceir rhagor o wybodaeth am wallau clercol yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr

Os bydd rhywun yn gwneud cwyn i staff gorsaf bleidleisio sy'n awgrymu y dylai fod ar y gofrestr etholiadol, rhaid i'r Swyddog Llywyddu hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag sy'n ymarferol. Er mwyn i hyn weithio'n effeithiol, bydd angen i chi sicrhau bod systemau cyfathrebu addas ar waith gennych rhwng Swyddogion Llywyddu a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff, gweler ein canllawiau ar hyfforddi swyddogion llywyddu, clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2024