Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cofnodlyfr gorsafoedd pleidleisio

Dylech baratoi cofnodlyfr gorsaf bleidleisio er mwyn i staff gorsafoedd pleidleisio ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw broblemau neu anghysonderau.  

Dylech gyfarwyddo staff gorsafoedd pleidleisio i gofnodi'r canlynol yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio:

  • unrhyw achosion lle mae angen iddynt ofyn y cwestiynau rhagnodedig o ganlyniad i achos lle amheuir cambersonadu, gan nodi cymaint o wybodaeth â phosibl, er enghraifft, unrhyw nodweddion arbennig, a all helpu unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Mae Atodiad 7 i'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio yn nodi'r weithdrefn ar gyfer delio â chambersonadu, sy'n cynnwys gofyn y cwestiynau rhagnodedig.  
  • enw a chyfeiriad unrhyw bleidleisiwr na all bleidleisio am unrhyw reswm gweinyddol  
  • unrhyw beth a all helpu i esbonio unrhyw broblemau gyda'r cyfrifon papurau pleidleisio ar adeg dilysu – er enghraifft, os gwelwyd pleidleisiwr yn gadael yr orsaf bleidleisio gyda phapur pleidleisio. Dylech ystyried cyfarwyddo Swyddogion Llywyddu i gadw'r cofnodlyfr a'r cyfrif papurau pleidleisio gyda'i gilydd wrth drosglwyddo'r papurau pleidleisio i'r cyfrif.
  • manylion pawb sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion arsylwi gweithrediadau, gan gynnwys ymweliadau gan yr Heddlu a staff y Swyddog Canlyniadau
  • unrhyw adegau pan fyddant yn cyfyngu dros dro ar nifer yr arsyllwyr a all aros yn yr orsaf bleidleisio, er mwyn sicrhau y gall y bleidlais fynd yn ei blaen yn effeithiol
  • achosion lle maent yn arsylwi rhywun yn ceisio mynd gyda phleidleisiwr i'r bwth pleidleisio nad yw'n gydymaith penodedig iddo nac yn blentyn, a'r camau a ddilynodd
  • os yw ymgyrchydd gwleidyddol wedi rhoi gwybod iddynt ei fod yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran pobl nad ydynt yn berthnasau agos neu bobl y maent yn darparu gofal ar eu cyfer ond yn gwrthod trosglwyddo'r pleidleisiau post i'w gwrthod
  • unrhyw adborth ar y defnydd o unrhyw offer penodol a ddarparwyd i'r orsaf bleidleisio
  • manylion defnyddiol am unrhyw sefyllfaoedd anodd a gafwyd
     

Os byddwch yn poeni bod cambersonadu wedi digwydd mewn gorsaf bleidleisio, dylech gysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol a gallwch hefyd gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth ychwanegol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynnal uniondeb yr etholiad

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Chwefror 2024