Rhestr o bapurau pleidleisio a wrthodwyd a'r ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr
Rhaid i chi ddarparu rhestr wrthod papurau pleidleisio i bob gorsaf bleidleisio i ddal gwybodaeth yn ymwneud â'r gofynion ID Pleidleisiwr.
Gall Swyddogion Canlyniadau ofyn i Swyddogion Llywyddu gasglu data gan ddefnyddio’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr. Er nad yw’n ofyniad statudol i gasglu’r wybodaeth hon, byddem yn argymell ei chasglu er mwyn deall gweithrediad y gofynion ID Pleidleisiwr mewn gwahanol fathau o etholiadau. Lle byddwch yn penderfynu casglu gwybodaeth y ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr yn yr etholiadau hyn, ni fyddai'n ofynnol i chi goladu'r data a'i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Comisiwn ac ni fyddai unrhyw gyfyngiadau ychwaith ar gyhoeddi data’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr.
Os ydych yn penderfynu casglu gwybodaeth ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr, dylech ddarparu’r canlynol:
y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Defnyddir taflen nodiadau’r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr drwy gydol y dydd i gasglu a chofnodi gwybodaeth mewn perthynas â’r gofyniad ID pleidleisiwr:
Dogfen
Gwybodaeth a gasglwyd
Rhestr o Bapurau Pleidleisio a Wrthodwyd
Nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ar sail:
nid oedd yr ID ffotograffig yn debyg iawn
credai'r Swyddog Llywyddu mai ffugiad oedd yr ID ffotograffig
methodd yr etholwr ag ateb y cwestiynau rhagnodedig yn foddhaol
Byddai'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio yn cael ei diweddaru pe bai etholwr yn dychwelyd yn ddiweddarach gyda math o ID ffotograffig a dderbynnir
Taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Nifer y Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr a ddefnyddir gan etholwyr (neu ddirprwyon) fel eu ID ffotograffig derbyniol
Nifer y Dogfennau Etholwyr a ddefnyddir gan etholwyr dienw fel eu ID ffotograffig derbyniol
Nifer yr ID ffotograffig a wiriwyd yn breifat
Manylion yr etholwyr na roddwyd papur pleidleisio iddynt a nifer yr etholwyr hyn a ddychwelodd yn ddiweddarach ac y rhoddwyd papur pleidleisio iddynt
Ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio bydd y Swyddog Llywyddu yn llenwi'r ffurflen gwerthuso dogfen ID pleidleisiwr gyda'r wybodaeth o daflen nodiadau'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr.