Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Rhestrau rhifau cyfatebol

Rhaid i chi baratoi a darparu rhestr rhifau cyfatebol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.1 Mae'r rhestr rhifau cyfatebol yn ddogfen benodedig y gellir ei gweld yn yr atodiad i'r rheolau etholiad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth i ffurf debyg gael ei defnyddio.

Mae dau fath o restr rhifau cyfatebol: mae un rhestr i'w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, ac mae'n cynnwys rhifau papurau pleidleisio a cholofn i ychwanegu rhifau etholwyr pleidleiswyr y dosbarthwyd y papurau pleidleisio hynny iddynt.2  

Mae'r rhestr arall i'w defnyddio yn ystod sesiynau dosbarthu pleidleisiau post, ac mae'n cynnwys rhif a marc adnabod unigryw pob papur pleidleisio a baratoir, yn ogystal â rhifau etholwyr pleidleiswyr drwy'r post. I gael rhagor o wybodaeth am y broses agor pleidleisiau post, gweler ein canllawiau ar Dderbyn ac agor pleidleisiau post.

Cyfuno

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023