Ar ôl y bleidlais dylech gynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect, gan geisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd a ddefnyddir i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Dylai cwmpas yr adolygiad gynnwys pob agwedd ar yr etholiad, a dylid adolygu pob proses a gynlluniwyd ac a weithredwyd.
Bydd rhoi ystyriaeth i'r nodau a'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun prosiect a mesur eich perfformiad yn eu herbyn yn rhan allweddol o'r adolygiad.
Dylech roi sylw penodol i adolygu:
eich cynllun prosiect
p'un a oeddech yn gallu sicrhau digon o adnoddau
os yw'ch etholaeth yn croesi ffin awdurdod lleol, beth weithiodd yn dda a beth gellid ei wella wrth weithio gyda staff etholiadau o'r awdurdod/awdurdodau eraill
os nad chi hefyd yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i ran neu bob rhan o'ch etholaeth, beth weithiodd yn dda a beth gellid ei wella wrth weithio â hwy
sut mae contractwyr wedi eu rheoli a ph'un a ydynt wedi cyflawni'r gwaith i'r fanyleb ofynnol
y cyfarpar a'r offer ysgrifennu a ddefnyddiwyd
y cyfarpar a ddarparwyd i gefnogi pleidleiswyr anabl
y broses recriwtio a hyfforddi staff
addasrwydd y lleoliad a ddefnyddiwyd
y gwaith o reoli enwebiadau, gorsafoedd pleidleisio, y broses pleidleisio absennol, a'r dilysiad a chyfrifiadau
y gwaith o brosesu ac ymdrin ag ymholiadau
eich gweithgarwch ymgysylltiad cyhoeddus
unrhyw broblemau'n effeithio ar ddiogelwch/uniondeb yr etholiad
eich rhyngweithiad ag ymgeiswyr ac asiantiaid
Fel rhan o'r adolygiad, dylech geisio adborth gan randdeiliaid priodol.
Dylech geisio adborth gan y canlynol:
eich staff ac, os yw'ch etholaeth neu ardal bleidleisio'n croesi ffin awdurdod lleol, staff etholiadau o'r awdurdod/awdurdodau eraill
os nad chi hefyd yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, y Swyddog Cofrestru Etholiadol
etholwyr
ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol
sefydliadau lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau ethnig leiafrifol, a swyddogion mynediad y cyngor
Dylech ystyried estyn gwahoddiad i sawl aelod o staff, yn cynnwys staff gorsafoedd pleidleisio, i drafodaeth er mwyn mynd i'r afael â phob agwedd ar y broses gorsafoedd pleidleisio, o sesiynau hyfforddi a briffio i ymdrin â sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod pleidleisio. Gallech ystyried unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a ddychwelwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Ar ôl adolygu holl agweddau ar yr etholiad a cheisio adborth gan randdeiliaid priodol, dylech lunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd. Dylai'r ddogfen ar y gwersi a ddysgwyd gynnwys dadansoddiad o ba arferion oedd yn llwyddiannus a lle arall y gellid eu defnyddio, beth fyddech chi'n ei wneud eto neu ei wneud yn wahanol, a phrif argymhellion. Yna, dylid defnyddio'r adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.