Mae gofyn i chi goladu data penodol sy'n ymwneud â'r etholiad.
Fel y nodir yn y Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol, mae ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw ategol i'w cwblhau, ar gael isod:
Mae'n rhaid i chi gwblhau datganiad ynghylch papurau pleidlais bost ar gyfer yr etholiad.1
Mae'r datganiadau hyn yn hanfodol ar gyfer cadw cyfrif o bleidleisiau post ac er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn ôl eu bwriad.
Dylai'r datganiadau fod yn rhan o'r trefniadau a roddwyd ar waith gennych i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisio drwy'r post a chyfrif.
Dylech gwblhau'r datganiadau'n fanwl gywir gan ddefnyddio'r ffigyrau a gofnodwyd ar adeg rhoi, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.
Lle dylid anfon y datganiad ynghylch papurau pleidleisio
Dylech ddarparu copi o'r datganiad ar gyfer yr etholiad, yn Gymraeg neu Saesneg, i'r Comisiwn Etholiadol.
Dylid anfon y datganiad i’r Comisiwn gan ddefnyddio [email protected].
Ni ddylid darparu'r datganiad cyn 10 diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio ond rhaid iddo gyrraedd 25 diwrnod calendr ar yr hwyraf ar ôl y diwrnod pleidleisio. Os nad yw'r naill ddiwrnod neu'r llall yn ddiwrnod gwaith, caiff yr amser ei ymestyn i'r diwrnod gwaith nesaf.
Ar wahân i'r datganiad statudol ynghylch pleidleisiau post, rydym yn casglu data ar bleidleisiau post drwy ein porth ar-lein mewn cais data unigol ynghyd â data etholiad perthnasol arall, e.e. nifer y pleidleiswyr a phleidleisiau a wrthodwyd. Bydd manylion ynglŷn â sut i gyflwyno'r wybodaeth hon i ni yn cael eu darparu mewn Bwletin Gweinyddu Etholiadol y Comisiwn.
Dylech hefyd ddarparu copi o'r datganiad a gwblhawyd ar yr un pryd ac i'r un person ag yr ydych yn anfon y dogfennau etholiad eraill, sydd wedi'u rhestru yn ein canllawiau ar anfon neu gadw dogfennau etholiad.