Y dyddiad cau i gyflwyno papurau enwebu yw 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Ni ellir symud nac ymestyn y dyddiad cau hwn am unrhyw reswm, ac eithrio’r sefyllfa annhebygol bod enwebiadau’n cael eu tarfu gan derfysg neu drais agored.2
Mae’n rhaid ichi benderfynu ar yr amseroedd y byddwch yn derbyn cyflwyniadau o bapurau enwebu â llaw ac yn electronig a nodi’r amseroedd hyn ar yr hysbysiad etholiad.3
Gallwch ddechrau derbyn enwebiadau ar yr un diwrnod ag y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad, gan roi mwy o amser i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu.
Fel arall, gallwch ddechrau derbyn enwebiadau ar y diwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad.
Pennir cyflwyno fel yr adeg y caiff papurau enwebu eu cyflwyno, naill yn y lle a nodir yn yr hysbysiad neu’n unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig.4
Nid oes angen apwyntiad i gyflwyno papurau enwebu â llaw. Fodd bynnag, dylech ystyried sut rydych am reoli’r posibilrwydd o nifer fawr o enwebiadau y byddwch yn eu derbyn. Gallai hyn gynnwys:
• cynnig apwyntiadau ar gyfer gwiriadau anffurfiol ac ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn ffurfiol â llaw • tynnu sylw at ddulliau electronig o gynnal gwiriadau anffurfiol a chyflwyno papurau enwebu
Yr ymgeisydd unigol neu’r Swyddog Enwebu (fel sy’n briodol) sy’n gyfrifol am sicrhau y cyflwynir y papurau enwebu yn y ffordd gywir ac erbyn y dyddiad cau gofynnol.
Rhaid i bapurau enwebu a ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cyflwyno gyda’i gilydd, ar gyfer pob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd unigol neu’r ymgeiswyr plaid yw’r ffurflenni cydsynio ag enwebiad (fel sy’n briodol) ac felly gellir eu cyflwyno ar wahân i weddill y papur enwebu.5
Rhaid i chi sicrhau bod eich systemau TG yn cofnodi’r amser y mae e-byst sy’n cynnwys y papurau enwebu neu enwebiadau a gyflwynir drwy system ar-lein i sicrhau bod cyflwyniad yn unol â’r dyddiad cau gofynnol.6