Rhaid i bapurau enwebu nad ydynt yn cael eu cyflwyno’n electronig gael eu danfon â llaw i'r lleoliad(au) a nodwch yn eich hysbysiad etholiad.1
Rhaid i'r lle neu’r lleoedd rydych yn dewis i gyflwyno papurau enwebu fod yn:2
• etholaeth y Senedd, neu • yn yr ardal gofrestru sy’n cynnwys yr etholaeth Senedd gyfan neu ran ohoni
Dylai’r lleoliad ar gyfer danfon papurau enwebu a roddir ar yr hysbysiad etholiad fod yn fanwl gywir, a chynnwys unrhyw enw neu rif ystafell. Bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth pe bai’r enwebiadau’n cael eu cyflwyno’n agos at y dyddiad cau.
Dylech:
sicrhau mai chi a’ch staff yw’r unig rai sy’n derbyn enwebiadau yn y lleoliad penodol
rhoi arwyddion clir i’r lleoliad o fynedfa’r adeilad
sicrhau bod y llwybr yn gwbl hygyrch, neu ddarparu llwybr arall ag arwyddion priodol,
rhoi manylion i staff eraill yr awdurdod lleol, megis staff y dderbynfa, ynghylch yr hyn i'w wneud os bydd person yn ceisio danfon papur enwebu iddynt, gan ei gwneud yn glir:
na ddylent ymdrin â phapurau enwebu
na ddylent gynnig eu cyflwyno
yn hytrach, dylent gyfeirio’r person sy’n danfon y ffurflenni atoch chi
Dylech chi neu ddirprwy penodedig fod yn bresennol drwy gydol y cyfnod ar gyfer enwebiadau.3