Camau i’w cymryd os caiff papurau enwebu eu hanfon at gyfeiriad e-bost anghywir
Nid yw unrhyw ffurflenni enwebu, ffurflenni cydsynio ag enwebiad neu ffurflenni cyfeiriad cartref a dderbynnir mewn cyfeiriad e-bost gwahanol i’r rhai a ddarparwyd yn y datganiad cyflwyno electronig wedi’u cyflwyno'n unol â’r rheolau.1
Felly, ni ellir gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn ag a yw’r papurau’n ddilys.2
Dylech fod â phrosesau ar waith i fonitro cyfeiriadau e-bost a allai fod yn gysylltiedig â’r Swyddog Canlyniadau neu’r gwasanaethau etholiadol y gallai papurau enwebu, ffurflenni cydsynio ag enwebiad a ffurflenni cyfeiriad cartref yn gallu cael eu hanfon atynt mewn camgymeriad, fel bod y papurau a dderbynnir yn cael eu hadnabod yn gyflym a bod camau yn cael eu cymryd i gysylltu â’r blaid neu’r ymgeisydd unigol.
Dylech hefyd ystyried sut i wneud timau eraill ar draws y cyngor yn ymwybodol o’r ffaith y dylent gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosibl os ydynt yn derbyn unrhyw e-byst sy’n ymwneud â’r broses enwebu.
Dylech geisio cysylltu â’r ymgeisydd unigol neu’r Swyddog Enwebu gan ddefnyddio’r manylion ar y ffurflen enwebu a’i gynghori na all y ffurflen enwebu, y ffurflen cydsynio ag enwebiad na’r ffurflen cyfeiriad cartref eu derbyn oni bai iddynt gael eu cyflwyno i’r cyfeiriad e-bost penodol ar gyfer derbyn ffurflenni enwebu. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd unigol neu’r Swyddog Enwebu yw sicrhau bod hyn yn cael ei wneud erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau.