Rhaid cyflwyno’r ffurflen enwebu, ffurflen cydsynio ag enwebiad a’r ffurflenni cyfeiriad cartref naill ai:1
â llaw
yn electronig yn unol â'r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig
Dylech gael prosesau ar waith i fonitro’r broses o gyflwyno ffurflenni enwebu yn electronig, gan gynnwys lliniaru unrhyw risg y bydd e-byst yn cael eu harallgyfeirio i ffolderi sbam.
Lle caiff dogfen ei chyflwyno â llaw, dylai'r ddogfen gynnwys llofnod gwlyb ac mae'n rhaid cyflwyno'r fersiwn wreiddiol o bob dogfen wedi'i chwblhau. Nid yw dogfen sydd wedi'i hargraffu yn ddogfen wreiddiol, ond yn hytrach yn gopi o ddogfen. Gall cyflwyno â llaw gynnwys cyflwyno drwy negesydd.
Pan fydd dogfen yn cael ei chyflwyno yn electronig, gellir llofnodi’r ddogfen yn electronig – gallai hyn fod ar ffurf llofnod wedi’i deipio, er enghraifft.
Dylech gymryd camau i gyfathrebu’r gofynion o ran cyflwyno papurau enwebu i’r holl ddarpar ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau.