Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Adalw pleidleisiau post a ganslwyd
Pan fydd papur pleidleisio drwy’r post wedi cael ei ganslo, rhaid i chi adalw’r datganiad pleidleisio drwy’r post a’r papur pleidleisio, os ydynt wedi cael eu dychwelyd, fel nad ydynt yn mynd ymlaen i’r cyfrif.1
Rhaid i chi sicrhau bod y blwch pleidleisiau drwy’r post yn cael ei ail-selio ym mhresenoldeb unrhyw asiant a oedd yn bresennol ar ôl i bapurau pleidleisio drwy’r post a gafodd eu canslo gael eu hadalw o’r blwch pleidleisiau drwy’r post.2
Canslo pleidleisiau drwy’r post sydd wedi cael eu dychwelyd3
Dylech wneud trefniadau ar gyfer sut y byddwch yn delio â phapurau wedi’u canslo ar ôl i becynnau post gael eu darparu a’u dychwelyd i chi, gan gynnwys:
- sut y byddwch yn gallu adalw a chanslo unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a datganiadau pleidleisio drwy'r post sy'n mynd drwy'r broses agor pleidleisiau drwy’r post neu sydd eisoes wedi mynd drwy'r broses honno
- sut y byddwch yn esbonio beth sy'n digwydd i ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n bresennol mewn sesiwn agor lle mae angen i chi adalw a chanslo papur pleidleisio drwy'r post
Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r camau y dylech eu cymryd i reoli’r broses o adalw pleidleisiau drwy’r post a ganslwyd:
| Cam | Camau i'w cymryd |
|---|---|
| Cam 1 | Yn ystod sesiwn agor, adalw’r datganiad pleidleisio drwy’r post o’r pecyn neu’r blwch priodol
|
| Cam 2 | Agor y blwch pleidleisiau drwy’r post perthnasol ac adalw’r papur pleidleisio
|
| Cam 3 | Marcio bod y dogfennau a adalwyd wedi'u canslo. Rhoi’r dogfennau a ganslwyd yn y pecyn perthnasol ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd Rhaid i’r rhestr o bapurau pleidleisio a ganslwyd gynnwys y canlynol:4
Yn achos papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd wedi’u canslo, rhaid i’r rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd hefyd gynnwys y canlynol:5
|
| Cam 4 | Ail-selio’r blwch pleidleisiau drwy’r post
|
- 1. Atodlen 2, paragraff 25(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 25(2)(f), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 16(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 16(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, paragraff 14(10), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5