Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Y broses ddarparu
Darperir ar gyfer y prosesau i’w dilyn wrth ddarparu pecynnau pleidlais bost mewn deddfwriaeth:1
Rhestr rhifau cyfatebol
Rhaid i chi gynhyrchu rhestr rhifau cyfatebol i’w defnyddio mewn sesiynau darparu pleidleisiau drwy’r post.
Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol a ddefnyddir fod ar y ffurf ragnodedig (neu ffurf debyg). Rhaid iddi gynnwys rhif y papur pleidleisio a marc adnabod unigryw’r papur pleidleisio sydd i'w roi i’r etholwr hwnnw.2
Pan fydd y papur pleidleisio’n cael ei roi i’r etholwr hwnnw, rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar y rhestr rhifau cyfatebol wrth ymyl rhif y papur pleidleisio a’r marc adnabod unigryw.3
Mae angen rhestrau newydd a phecynnau cysylltiedig ar gyfer pob cyflenwad. Gellid argraffu’r rhestr ar un ochr a’i thorri ar yr adeg y cafodd y papur pleidleisio diwethaf ei ddarparu mewn unrhyw gyflenwad penodol o becynnau pleidlais bost. Yna, gellir defnyddio’r rhestr rhifau cyfatebol sy’n weddill mewn unrhyw sesiynau darparu pellach ac ar gyfer darparu papurau pleidleisio drwy’r post newydd.
Rhaid selio’r rhestr rhifau cyfatebol sy’n ymwneud â’r papurau pleidleisio a ddarparwyd mewn pecyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pecyn pleidlais bost gael ei ddarparu. Dim ond drwy orchymyn llys y gellir ei agor a’i archwilio.4
Y pecyn pleidleisio drwy'r post
Rhaid cynnwys rhif y papur pleidleisio drwy’r post ar y datganiad pleidleisio drwy’r post sydd i’w anfon gyda’r papur pleidleisio.5
Y cyfeiriad y dylid anfon y pecyn pleidleisio drwy’r post iddo yw’r cyfeiriad a ddangosir ar y rhestr o bleidleiswyr drwy’r post perthnasol. Yn achos dirprwy yn pleidleisio drwy’r post, dyma’r cyfeiriad a gaiff ei ddangos ar restr y pleidleiswyr post dirprwyol. Yn achos etholwr dienw, gellir dod o hyd i’r cyfeiriad yn y cofnodion o geisiadau a ganiatawyd.
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion cynnwys y pecyn pleidleisio drwy’r post, gweler ein canllawiau ar gynhyrchu deunydd pleidleisio drwy’r post.
Marcio cofrestrau’r gorsafoedd pleidleisio
I ddangos bod gan etholwr yr hawl i bleidleisio drwy’r post ac na ddylid rhoi papur pleidleisio cyffredin iddo mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i gofrestr yr orsaf bleidleisio gael ei marcio ag ‘A’ gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr o bleidleiswyr drwy ddirprwy drwy’r post.6
Rhaid rhoi marc ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post (neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y gall fod yr achos) i ddangos bod pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i ddarparu.7
Dylech gynnal trywydd archwilio clir ar gyfer dosbarthu pecynnau pleidlais bost. Fel rhan o hyn, dylech sicrhau bod nifer y pleidleisiau post a ddarparir yn cael ei gofnodi’n gywir ar ddiwedd pob sesiwn ddarparu ac wrth ddarparu pecynnau pleidlais bost newydd. Bydd angen y rhifau hyn er mwyn cwblhau’r datganiad ynghylch papurau pleidleisio drwy’r post.
Mae'n ofynnol i chi gwblhau datganiad sy'n cynnwys manylion y papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth.
Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r broses ddarparu:
| Trefn | Camau i'w cymryd |
|---|---|
| Cam 1 | Darllen enw a chyfeiriad y pleidleisiwr drwy’r post o'r rhestr pleidleiswyr drwy’r post/drwy ddirprwy drwy’r post a gwneud yn siŵr bod y manylion hynny'n ymddangos ar yr amlen sy'n mynd allan. |
| Cam 2 | Darllen rhif y papur pleidleisio a restrir. Gwirio bod y rhifau yr un fath ar:
|
| Cam 3 | Rhoi’r pecyn pleidleisio drwy’r post yn yr amlen sy’n mynd allan drwy gynnwys:
|
| Cam 4 | Marcio’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post / pleidleiswyr post drwy ddirprwy i ddangos eich bod wedi cwblhau’r pecyn pleidlais bost. |
| Cam 5 | Cau'r amlenni ar gais y goruchwyliwr. Peidio â’u selio oni bai eich bod wedi’ch cyfarwyddo i wneud hynny. |
Pwy sy’n gallu bod yn bresennol yn y broses darparu pleidleisiau drwy’r post?8
Yn ogystal â chi a’ch staff, mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig yr hawl i fod yn bresennol yn y broses ddarparu.
Os ydych chi wedi rhoi’r broses darparu pleidleisiau drwy’r post ar gontract allanol, dylech sicrhau bod y bobl hyn yn gallu cael mynediad i adeilad y cwmni sy’n cynnal y ddarpariaeth.
Rhaid i unrhyw un sy’n bresennol mewn sesiwn darparu pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff, gael copi o’r darpariaethau cyfrinachedd perthnasol.9
Gallwch ddod o hyd i’r darpariaethau cyfrinachedd pleidleisio drwy’r post yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
- 1. Atodlen 2, paragraff 9, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, rheol 27(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 9(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 12, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, paragraff 9(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5, Rheol 21, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2, paragraff 9(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2, paragraff 4(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2, paragraff 9(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9