Ar ôl i becynnau pleidlais bost gael eu darparu am y tro cyntaf, bydd angen darparu pecynnau pleidlais bost dilynol pan fydd etholwyr wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post yn agos at y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio absennol, sef 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.1
Mae unrhyw gyflenwad dilynol yn debygol o fod ar adeg sydd eisoes yn brysur yn amserlen yr etholiad, felly mae'n bwysig bod gennych y trefniadau angenrheidiol ar waith i ddarparu a dosbarthu pecynnau pleidlais bost dilynol mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
Dylech sicrhau:
bod gennych ddigon o staff i reoli’r broses, p’un a ydych yn darparu pleidleisiau drwy’r post yn fewnol, neu’n defnyddio darparwr allanol
bod eich argraffydd yn ymwybodol o'r amseriadau trosglwyddo data a, lle bo'n berthnasol, anfon pecynnau pleidlais bost
bod gennych brosesau ar waith i fonitro sicrwydd ansawdd yn barhaus o ran cynhyrchu a danfon eich pecynnau pleidleisio drwy’r post dilynol
Trefniadau arbennig ar gyfer darparu pecynnau pleidleisio drwy’r post ar sail ad hoc
Dylech roi dull yn ei le i sicrhau eich bod yn gallu cynhyrchu cyhoeddiadau ychwanegol nas trefnwyd.
Er enghraifft, lle byddwch yn dod yn ymwybodol bod un neu fwy o etholwyr yn mynd i fod ar wyliau neu i ffwrdd ar fusnes erbyn y tro nesaf y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu darparu dylech, cyn belled ag y bo’n ymarferol, ddarparu pecynnau pleidlais bost y tu allan i’r hyn rydych wedi’i drefnu i’r etholwyr unigol hynny.