Marcio'r rhestrau pleidleiswyr post a phleidleiswyr post drwy ddirprwy
Rhaid i chi farcio’r rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy pryd bynnag y bydd datganiad pleidleisio drwy’r post yn cael ei ddychwelyd, ni waeth a yw wedi dod gyda phapur pleidleisio.1
Rhaid i'r marc fod yn wahanol i’r marc a wnaethpwyd pan ddarparwyd y papur pleidleisio drwy’r post ac ni ddylai guddio’r marc gwreiddiol hwnnw.2
Cadarnhau gyda phleidleiswyr bod eu pleidlais bost wedi’i dychwelyd
Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn egluro sut i ymdrin â cheisiadau i gadarnhau derbyn datganiadau pleidleisio drwy'r post ac mae'n rhaid i chi ystyried hyn.3
Unrhyw bryd rhwng cyhoeddi papurau pleidleisio am y tro cyntaf a diwedd y cyfnod pleidleisio, gall pleidleisiwr post neu bleidleisiwr post drwy ddirprwy ofyn ichi gadarnhau:4
a yw ei rif etholwr ar y rhestr wedi’i farcio i ddangos bod pleidlais bost wedi’i dychwelyd
a yw’r rhif ar y papur pleidleisio a roddwyd iddo wedi’i gofnodi ar naill un neu’r llall o’r rhestrau o bleidleisiau a wrthodwyd dros dro
Gallwch wneud hyn drwy edrych ar y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy a farciwyd.
Rhaid i gais, a wnaed gan etholwr neu ddirprwy sydd wedi pleidleisio drwy’r post, i gadarnhau a yw ei bleidlais bost wedi'i dychwelyd:5
gael ei wneud drwy'r dull rydych wedi'i nodi
cynnwys unrhyw dystiolaeth o hunaniaeth y pleidleisiwr y gofynnoch amdano
Er enghraifft, gallech ofyn am ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni cyn darparu’r wybodaeth.