Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Y broses ar gyfer agor pleidleisiau drwy’r post
Nodir y prosesau ar gyfer agor pecynnau pleidleisio drwy’r post mewn deddfwriaeth.1
Cam 1 - Agor blwch pleidleisio pleidleiswyr post
- cyfrif a chofnodi nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd (h.y. nifer y prif amlenni ym mlwch pleideisio’r pleidleiswyr drwy’r post)
- agor y brif amlen a gwirio ei bod yn cynnwys y datganiad pleidleisio drwy'r post ac amlen y papur pleidleisio
- os yw’r amlen yn cynnwys datganiad pleidleisio drwy’r post:2
- rhoi marc ar y rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy fel sy'n briodol i ddangos bod datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd3
- os nad yw’r brif amlen yn cynnwys y datganiad pleidleisio drwy'r post:4
- marcio'r brif amlen gyda’r geiriau ‘provisionally rejected’/ ‘gwrthodwyd dros dro’, atodi ei chynnwys a’i rhoi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
- os yw’r amlen yn cynnwys datganiad pleidleisio drwy’r post:2
Cam 2 - Gwirio’r dynodwyr personol5
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau’n briodol. Rhaid i chi:
- wirio bod yr etholwr wedi llofnodi’r datganiad ac wedi rhoi dyddiad geni.
- gwirio bod y llofnod a’r dyddiad geni ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r rhai ar y cofnod dynodwyr personol
- os ydych yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy’r post wedi'i gwblhau’n briodol:6
- gwirio bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’)7
- rhoi'r datganiad yn y blwch ar gyfer datganiadau pleidleisio drwy’r post (gweithdrefn ddilysu)
- rhoi'r amlen papur pleidleisio yn y blwch ar gyfer yr amlenni papur pleidleisio
- os nad ydych yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau’n briodol:8
- gwrthod y datganiad pleidleisio drwy’r post, rhaid ichi farcio’r datganiad â ‘rejected’/ ‘gwrthodwyd’, ei atodi i’r amlen papur pleidleisio (os nad oes amlen o’r fath mae’n rhaid ichi ei atodi i’r papur pleidleisio) a’i osod yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (gweithdrefn ddilysu)
- cyn ei roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (gweithdrefn ddilysu), rhaid i chi ei ddangos i unrhyw asiantiaid sy’n bresennol, caniatáu iddynt weld y gofnod dynodwyr personol sy’n berthnasol i’r person y cyfeiriwyd y datganiad pleidleisio drwy’r post ato ac, os yw unrhyw un ohonynt yn gwrthwynebu eich penderfyniad, ychwanegwch y geiriau‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’ at y datganiad pleidleisio drwy’r post. Dylech hefyd gofnodi’r rheswm dros wrthod.
- os ydych yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy’r post wedi'i gwblhau’n briodol:6
Cam 3 - Agor amlenni pleidleisio drwy'r post9
- agor yr amlen papur pleidleisio (amlen A) a thynnu’r papur pleidleisio allan, gan sicrhau y cedwir y papur pleidleisio wyneb i waered bob amser10
- gwirio bod y rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen A) yn cyfateb i’r rhif ar gefn y papur pleidleisio
- rhoi'r papur pleidleisio yn y blwch/blychau pleidleisiau post
- os nad yw rhif y papur pleidleisio ar amlen y papur pleidleisio yn cyfateb i’r rhif ar gefn y papur pleidleisio, ychwanegu’r geiriau ‘provisionally rejected’/‘gwrthodwyd dros dro’, ei atodi i’r amlen papur pleidleisio a’i osod yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd
- os nad yw’r amlen papur pleidleisio’n cynnwys papur pleidleisio, ysgrifennu ar yr amlen papur pleidleisio bod y papur pleidleisio ar goll, ychwanegu’r geiriau ‘gwrthodwyd dros dro’ a’i gosod yn y blwch ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd
Cam 4 - Selio’r blychau pleidleisio drwy’r post
- cyfrwch a chofnodwch nifer y papurau pleidleisio drwy’r post sydd i’w selio ym mhob blwch pleidleisio drwy’r post.
- seliwch a storio’r blychau pleidleisio drwy’r post yn ddiogel11
Gallwch ddod o hyd i siart llif agor pleidleisiau post yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
Dylech roi papurau pleidleisio mewn sypiau mewn ffordd sy’n sicrhau y byddwch yn gallu adalw a chanslo unrhyw bapur pleidleisio (er enghraifft, oherwydd eich bod wedi gorfod ei ailddarparu yn dilyn gwall gweithdrefnol).
Am y rheswm hwn, ac oherwydd yr angen i wirio cynnwys yr holl flychau pleidleisio drwy’r post yn y dilysiad, dylech ystyried faint o bapurau pleidleisio rydych am eu cadw ym mhob blwch.
Paru datganiadau pleidleisio drwy’r post gyda phapurau pleidleisio drwy’r post12
Rhaid ichi gadw dwy restr o bapurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd dros dro:
- un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
- un i gofnodi rhif y papur pleidleisio ar unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy’r post nas ddychwelwyd gyda’r papur pleidleisio
Gallwch ddod o hyd i daenlen paru pleidleisiau post yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
Dylech wirio’r rhestrau hyn yn rheolaidd i sicrhau bod unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb yn gallu cael eu cyfateb, gan alluogi’r pleidleisiau post hynny i gael eu hail-gyflwyno i’r broses.
- 1. Atodlen 2, paragraff 21, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 23, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 21(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 21(4) a (5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, paragraff 23, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2, paragraff 23(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2, paragraff 23(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2, Paragraff 23(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2, paragraff 24, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2, paragraff 21(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 2, paragraff 18(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Atodlen 2, paragraff 27, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 12