Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Cynllunio ar gyfer agor pleidleisiau drwy’r post
Nifer ac amser y sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post
Fel rhan o’ch gwaith cynllunio, bydd angen ichi nodi’r nifer y sesiynau agor amlenni pleidleisiau post yr ydych o’r farn y byddwch eu hangen, ble a phryd y dylid cynnal y rhain a gwneud trefniadau ar gyfer y rhain yn ôl yr angen.
Bydd nifer y sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu i raddau helaeth ar gyfanswm nifer y pleidleiswyr drwy’r post sydd gennych a’ch amcangyfrif o’r nifer fydd yn pleidleisio drwy’r post.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer cyflawni prif brosesau.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech gysylltu â’r Swyddog/Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn unrhyw awdurdod lleol arall i benderfynu sut i reoli’r broses o rannu’r data ar gyfer dilysu dynodwyr ar bleidleisiau post a ddychwelwyd. Os oes angen cyfnewid data’n electronig, dylech sicrhau bod prawf o’r broses yn cael ei gynnal cyn y trosglwyddiad cyntaf a drefnwyd.
Os byddwch yn penderfynu agor pleidleisiau post mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth, bydd angen ichi benodi dirprwyon o awdurdodau lleol eraill, fel sy’n briodol, sydd â phwerau penodol i allu dyfarnu dynodwyr pleidleisiau post. Dylech hefyd sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith gyda’r Post Brenhinol a’u bod yn gwybod ble dylid dychwelyd y pleidleisiau post.
parhad
Dylai eich sesiwn agor gyntaf gael ei chynnal o fewn ychydig ddyddiau i’ch cyflenwad cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi cael nifer fawr o bleidleisiau drwy’r post wedi’u dychwelyd erbyn hynny, dylech barhau i gynnal sesiwn ar yr adeg honno a manteisio ar y cyfle i brofi eich offer ac asesu eich llif gwaith o dan amodau go iawn.
Ar ôl y sesiwn gyntaf hon, dylech fesur a yw eich amcangyfrif o nifer y sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post sydd eu hangen yn ddigonol neu a oes angen i chi ei ddiwygio.
Nid oes dim yn rhwystro agor pleidleisiau drwy’r post ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl y banc, ac yn wir efallai yr hoffech ystyried gwneud hynny, yn enwedig os canfyddir bod angen sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post ychwanegol.
Rhaid ichi roi o leiaf 48 awr o rybudd ysgrifenedig i bob ymgeisydd unigol a phob ymgeisydd rhestr plaid ac asiant etholiad pob plaid sy’n sefyll, o amser(oedd) a lleoliad(au) pob sesiwn agor a’r nifer mwyaf o asiantiaid pleidleisiau post y gellir eu penodi i fod yn bresennol wrth agor pleidleisiau post.1
Pwy all fod yn bresennol mewn sesiwn agor pleidleisiau post?
Mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn sesiwn agor pleidleisiau post:2
- Chi a'ch staff
- Ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol
- Asiant etholiad ymgeisydd unigol neu berson a benodwyd gan yr ymgeisydd unigol i fod yn bresennol yn lle’r asiant etholiad
- Asiant etholiad rhestr plaid neu berson a benodwyd gan y Swyddog Enwebu i fod yn bresennol yn lle'r asiant etholiad
- Asiantiaid pleidlais bost
- Cynrychiolwyr y Comisiwn
- Arsylwyr achrededig
Dylai’r broses agor pleidleisiau post fod yn dryloyw a dylid sicrhau bod pawb sydd â’r hawl i fod yn bresennol yn gallu gweld y broses gyfan yn glir. Gallech ddosbarthu copïau o’ch cynllun gosodiad i helpu’r rheini sy’n bresennol i ddilyn yr hyn sy’n digwydd, ble a phryd.
Dylech roi gwybodaeth i unrhyw un sy’n dod i’r sesiwn agor pleidleisiau post am y prosesau y byddwch chi’n eu dilyn. Gall hyn fod yn esboniad llafar neu drwy ddarparu nodiadau cyfarwyddyd ysgrifenedig.
Dylech hefyd roi gwybod i ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy’r post am y broses sydd i’w dilyn os ydynt yn dymuno gwrthwynebu gwrthod datganiad pleidleisio drwy’r post. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar wirio dynodyddion personol.
Rhaid i bawb sy’n bresennol mewn sesiynau agor pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff:
- gael copi o'r gofynion cyfrinachedd perthnasol3
- cynnal cyfrinachedd pleidleisio
Gallwch ddod o hyd i ofynion cyfrinachedd pleidleisiau post yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
Rhaid i chi gymryd rhagofalon priodol i atal unrhyw berson rhag gweld y pleidleisiau a fwriwyd ar y papurau pleidleisio. Drwy gydol y sesiynau agor, rhaid i chi gadw’r papurau pleidleisio wyneb i waered.4 Efallai y bydd adegau pan fydd blaen papur pleidleisio’n dod yn weladwy. Mae’n drosedd i unrhyw un:
- geisio canfod pa ymgeisydd neu pha blaid gofrestredig y rhoddir unrhyw bleidlais drosti ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
- cyfathrebu unrhyw wybodaeth a geir yn y digwyddiadau hynny5
Offer
Dylech hefyd ystyried pa offer arall y bydd ei angen arnoch wrth agor pleidleisiau drwy'r post, a sicrhau ei fod yn ei le ac yn cael ei brofi ymlaen llaw. Dylai hyn gynnwys:
- sganwyr
- ceblau ymestyn
- argraffydd
- taflunydd a sgrin
- gliniaduron a/neu gyfrifiaduron
- stamp 'gwrthodwyd' a phad
- amrywiaeth o ddeunyddiau ysgrifennu
- 1. Atodlen 2, paragraff 17, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 7, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 21(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 35(4) a (6), Atodlen 2, paragraff 21(9), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5