Sicrhau bod unrhyw ffurflenni cais rydych yn eu datblygu yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, neu caiff y ceisiadau eu gwrthod fel arall. Yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod y meysydd llofnod a dyddiad geni ar ffurflenni cais pleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy yn y fformat cywir a bod maes i'r ymgeiswyr gynnwys eu rhif Yswiriant Gwladol. Dylech ddefnyddio ein ffurflen gais pleidleisio absennol fel canllaw a dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a all roi ffurflenni i chi eu defnyddio efallai. Er mwyn helpu i sicrhau bod ceisiadau pleidleiswyr yn cael eu derbyn a'u prosesu cyn gynted â phosibl, gallwch hefyd roi gwybod iddynt y gallant wneud cais am ffurflen pleidleisio absennol ar-lein yn https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post
Rhoi gwybod i'r pleidleiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted â phosibl. Ni ddylai ymgyrchwyr gasglu ceisiadau papur wedi'u cwblhau gan bleidleiswyr ac ni ddylent ofyn i bleidleiswyr anfon ceisiadau wedi'u cwblhau i gyfeiriadau ymgyrchwyr.
Sicrhau bod eich cefnogwyr yn gwrtais wrth ddelio ag ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr wrth ymgyrchu yn ogystal ag mewn digwyddiadau etholiadol fel y cyfrif a'r broses ddilysu.
Bod yn ymwybodol o'r dyddiadau cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ac asiantiaid i fod yn bresennol mewn achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif. Mae'r dyddiadau cau wedi'u nodi yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy’r post, y diwrnod pleidleisio a'r broses dilysu a chyfrif.
cydymffurfio ag unrhyw drefniadau diogelwch ychwanegol y gall Swyddog Canlyniadau Gweithredol eu rhoi ar waith mewn digwyddiadau etholiadol, megis y cyfrif a'r broses ddilysu, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos ID neu ofyn am gael gwirio eu bagiau cyn cael mynediad a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir.
Sicrhau bod eich systemau ar gyfer cofnodi gwariant a rhoddion yn gweithio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roddion a gwariant etholiad