Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi sicrhau nad ydych yn...

  • Gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd yn fwriadol. 1
  • Talu canfaswyr. 2  Ystyr canfasio yw ceisio darbwyllo etholwr i bleidleisio dros neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol.
  • Trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano.

Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol ei bod yn drosedd trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano a dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr a bydd yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle y gallai eu gonestrwydd neu eu huniondeb gael ei gwestiynu.

Ceir rhagor o wybodaeth am droseddau mewn etholiad a sut i roi gwybod amdanynt yn ein canllawiau ar droseddau.

Os byddwch chi, neu'ch asiant etholiad, wedi gwneud camgymeriad ac wedi torri'r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad rhag canlyniadau gwneud camgymeriad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar beth i'w wneud os byddwch wedi gwneud camgymeriad

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Hydref 2024