Yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud o ran cyhoeddusrwydd wrth ymgyrchu
Rhaid i chi wneud y canlynol:
Defnyddio argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu argraffedig ac unrhyw ddeunydd ymgyrchu electronig a ddylunnir i'w argraffu'n lleol. 1
Dylech sicrhau bod yr argraffnod yn glir ac yn weladwy. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddefnyddio argraffnodau.
Cydymffurfio â rheolau cynllunio sy'n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr2
– dylech ofyn i'r awdurdod lleol perthnasol am gyngor.
Sicrhau bod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr yn ddi-oed ar ôl yr etholiad – rhaid i chi wneud hyn o fewn pythefnos i'r etholiad.
Dylech wneud y canlynol:
Cynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd ymgyrchu nas argreffir, gan gynnwys gwefannau.
Ystyried sut i sicrhau bod eich ymgyrch yn hygyrch i bob pleidleisiwr – er enghraifft pleidleiswyr anabl neu bleidleiswyr nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu efallai y bydd angen darparu deunydd ymgyrchu Cymraeg mewn fformat penodol. Gallech gysylltu â grwpiau anabledd yn eich ardal leol am gyngor.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
Cynhyrchu deunydd sy'n edrych fel y cardiau pleidleisio a anfonir at bleidleiswyr gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)3
Talu pobl i arddangos eich hysbysebion (oni fyddant yn arddangos hysbysebion fel rhan o'u busnes arferol).4
1. Adran 143 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, adran 110 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Lloegr) 2007; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (yr Alban) 1984; ac ar gyfer Cymru, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
↩ Back to content at footnote 2