Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Unigolion
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Beth sy’n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae’n rhaid i unigolion fod ar gofrestr etholiadol y DU ar adeg y rhodd.1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Sut ydych chi’n gwirio a ydynt yn ffynhonnell a ganiateir?
O fewn eich etholaeth
Mae gan ymgeiswyr a’u hasiantiaid yr hawl i gopi am ddim o’r gofrestr etholiadol lawn ar gyfer yr etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn sefyll.2 Mae'r hawl hon yn berthnasol ar ôl i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Os ydych yn derbyn rhodd gan unigolyn yn eich etholaeth, dylech ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i wirio a yw'r unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd. Mae'n bosibl na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigonol i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd.
Fel arfer, mae fersiwn newydd o'r gofrestr etholiadol yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd.
Dylech gysylltu ag adran cofrestru etholiadol yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eich copi, gan egluro eich bod yn gofyn amdano fel ymgeisydd mewn etholiad neu fel asiant yr etholiad ar ran yr ymgeisydd.3 Dylech hefyd ofyn iddynt anfon yr holl ddiweddariadau i’r gofrestr ar gyfer y flwyddyn honno atoch, hyd at y dyddiad y cafodd y rhodd ei derbyn. Byddwch yn derbyn y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gwneud cais am gopi print o’r gofrestr.4
Mae’n rhaid i chi wirio’r gofrestr a’r diweddariadau’n ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y bu i chi dderbyn y rhodd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol drwy ein chwiliwr cod post.
Mewn amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw’r unigolyn wedi’i gofrestru’n ddienw, mae’n rhaid i chi ddarparu datganiad eich bod wedi gweld tystiolaeth bod ganddo gofnod dienw ar y gofrestr.5 Bydd y dystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif gyda’r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant.6
Dim ond ar gyfer gwirio a oes gan roddwr ganiatâd neu at ddibenion etholiadol eraill y dylech ddefnyddio’r gofrestr. Ni ddylech ei throsglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw'n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion anetholiadol.7
Tu allan i'ch etholaeth
Nid oes gan ymgeiswyr a’u hasiantiaid yr hawl i gopi am ddim o’r gofrestr etholiadol lawn ar gyfer y tu allan i'w hetholaeth.
Er mwyn cadarnhau ei fod yn rhoddwr a ganiateir, dylech ofyn i'r rhoddwr ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o'i gofrestriad o adran cofrestru etholiadol eu hawdurdod lleol cyn derbyn y rhodd. Rhaid i'r cadarnhad gadarnhau bod y rhoddwr ar y gofrestr etholiadol ar y dyddiad y cafodd y rhodd ei derbyn. Dylid gwneud y rhoddwr yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd ei awdurdod lleol yn codi ffi weinyddol am ddarparu cadarnhad ysgrifenedig.
Yn ogystal, gall ymgeiswyr a'u hasiantiaid fynd i'r awdurdod lleol i archwilio'r gofrestr berthnasol er mwyn gwirio caniatâd.
Gan nad oes gennych hawl i gopi o'r gofrestr etholiadol lawn y tu allan i'ch etholaeth, dyma'r ffyrdd gorau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd. Mae'n bosibl na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigonol i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd.
Cysylltwch â ni os bydd angen cyngor pellach arnoch ynghylch gwirio caniatâd.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn y rhoddwr
- y cyfeiriad fel y’i dangosir ar y gofrestr etholiadol, neu os yw’r person yn etholwr dramor, ei gyfeiriad dramor (p’un ai yn y DU neu yn rhywle arall)8
Mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol i chi nodi rhif etholiadol rhoddwr fel cofnod o’ch gwiriadau.
- 1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(a) a (8) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 108(1) a (b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR 2001) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 102(2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 102(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 10(2) a Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 10(2) a Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 108(5) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8