| Argraffu'r canllawiau llawn

Cymdeithasau anghorfforedig

Beth sy’n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir os:

  • oes ganddi fwy nag un aelod
  • yw’r brif swyddfa yn y DU  
  • yw’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU1

Mae’n rhaid i chi fod yn sicr bod y cwmni'n bodloni pob un o’r tri maen prawf. 

Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?

Nid oes unrhyw gofrestr sy'n cynnwys pob cymdeithas anghorfforedig. Bydd angen i chi wirio manylion y gymdeithas anghorfforedig ym mhob achos.

Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben cyffredin.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi’i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.

Weithiau, efallai bydd y rheolau’n cael eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes yn angen iddynt gael eu ffurfioli.

Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau'n gymdeithasau anghorfforedig.   

Os nad ydych chi’n siŵr a yw cymdeithas yn bodloni’r meini prawf, dylech ystyried a yw’r rhodd wedi dod mewn gwirionedd gan unigolion oddi mewn iddi (yn hytrach na’r gymdeithas ei hun) neu os oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.

Os tybiwch mai dyma'r achos, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o’r unigolion a gyfrannodd fwy na £500 yn rhoddwyr a ganiateir a’u trin fel rhoddwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am gynnal busnes i'w chael yn yr adran flaenorol Sut ydych chi’n cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech eu hysbysu bod rhaid iddynt adrodd hyn i ni. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.

Cysylltwch â ni os hoffech gael cyngor pellach ynghylch gwirio caniatâd cymdeithasau anghorfforedig mewn achosion penodol.

Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?

Rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r gymdeithas anghorfforedig
  • prif gyfeiriad y gymdeithas anghorfforedig2
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2026