Rhaid i chi fod yn sicr bod y cwmni'n bodloni pob un o’r tri maen prawf.
Sut ydych chi’n gwirio cofrestriad cwmni?
Dylech wirio'r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmniau. Dylech edrych ar y cofnod cofrestru llawn ar gyfer y cwmni.
Sut ydych chi’n cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â’r cwmni eich hun, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld:
a yw’r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur neu ar fin cael ei ddileu o’r gofrestr
a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr
Mae’n bosibl y bydd cwmni yn dal i gynnal busnes os yw’n cael ei ddiddymu, yn segur neu’n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni eich hun mai dyna'r achos.
Ar gyfer unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar:
wefan y cwmni
masnach berthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy
y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw’r cwmni'n cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y cwmni.
1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2(4) PPERA↩ Back to content at footnote 2