| Argraffu'r canllawiau llawn

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Beth sy’n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP) yn rhoddwr a ganiateir os yw:

  • wedi’i gofrestru fel LLP yn Nhŷ’r Cwmnïau
  • yn cynnal busnes yn y DU1

Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?

Dylech wirio'r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmniau. Dylech edrych ar y cofnod cofrestru llawn ar gyfer y cwmni.

Sut ydych chi’n cadarnhau a yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?

Mae’n rhaid i chi gael eich bodloni bod y LLP yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os oes ydych chi’n gyfarwydd â’r LLP dylech edrych ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld:

  • a yw’r LLP yn cael ei diddymu, yn segur neu ar fin cael ei diddymu
  • a yw cyfrifon a ffurflenni blynyddol y LLP yn hwyr

Mae’n bosibl y bydd LLP yn parhau i gynnal busnes os yw wedi’i diddymu, yn segur neu’n cyflwyno dogfennau’n hwyr, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fodloni eich hun mai dyna'r achos.

Ar gyfer unrhyw LLP, dylech ystyried edrych ar:

  • wefan y LLP
  • masnach berthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau

Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw’r LLP yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y LLP.

Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?

Rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr
  • cyfeiriad cofrestru swyddfa’r LLP2

Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestredig y LLP.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025